Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn dathlu merched yn adeiladu

Published: 08/03/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth eleni drwy ddathlu merched yn adeiladu. Yn y DU, mae merched yn cyfrif am ddim ond 11% or gweithlu adeiladu, a dim ond 1% o weithwyr ar safle, yn ôl ffigurau ar wefan UCATT (Undeb Adeiladu, Crefftau Perthynol a Thechnegwyr). Maer Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y merched syn gweithio fel towyr, bricwyr a gwydrwyr mor isel ei fod yn anfesuradwy. Mae Sir y Fflint yn mynd yn groes ir duedd hon, gyda 25% ou tîm Gwaith Cyfalaf yn ferched. Maer tîm hwn yn gweithio ar Raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), er mwyn sicrhau bod yr holl dai cyngor yn cyrraedd y safon erbyn 2020. Mae gan dîm atgyweirio a chynnal a chadw Sir y Fflint drydanwr benywaidd cyntaf y Cyngor hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Rwyn falch o ddweud bod Cyngor Sir y Fflint ar y blaen o ran annog merched i weithio yn y diwydiant adeiladu. Nid yn unig y mae gennym ferched yn ein tîm Gwaith Cyfalaf, ond rydym hefyd yn gweithio gydan partneriaid a’n contractwyr i ysbrydoli merched ifanc i fanteisio ar y nifer o brentisiaethau sy’n cael eu creu yn y sir.” Dyma rai ou straeon: Dywedodd Karen Stevens, Swyddog Cyswllt Tenantiaid: “Dechreuais y rôl hon ym mis Awst 2015 ac mae gen i gefndir mewn rheoli tai. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl a’u helpu, ac rwy’n gallu gweld pan fydd pobl yn cael trafferth gyda thasgau o ddydd i ddydd neu’n cael anawsterau. Rwyn treulio 80% or amser ar y safle, boed hi’n law, cenllysg neu hindda ac rwyf wrth fy modd.” Mae Hazel Oliver hefyd yn Swyddog Cyswllt Tenantiaid. Dechreuodd weithio ym maes Atgyweirio Tai 12 mlynedd yn ôl, gan symud ymlaen drwy waith prisio a chynllunio cyn symud iw rôl bresennol. Treuliodd beth amser yn y sector preifat, fel contractwr a chyflenwr, a roddodd fewnwelediad da iddi i agweddau gwahanol o’r busnes. Ar hyn o bryd, mae hin gweithio gyda dau gontractwr ar y rhaglen newid Ystafelloedd Ymolchi a systemau Gwresogi, or arolwg cychwynnol hyd at gwblhau’r gwaith. Meddai: “Byddaf yn ymweld âr eiddo yn rheolaidd yn ystod cyfnod y gwaith. Maen waith sy’n rhoi llawer o foddhad i mi. Maer rhan fwyaf o fy amser yn cael ei dreulio allan ar y safle ac rwyn cael cwrdd â llawer o bobl wych ar hyd y ffordd.” Dywedodd Christine Stewart, Archwilydd System SATC: “Symudais ir tîm Gwaith Cyfalaf or ganolfan gyswllt Atgyweirio a Chynnal a Chadw – gan ddelio bob dydd gyda thenantiaid, gweithwyr cefnogi, peirianwyr cynnal a chadw a chontractwyr. Roedd hyn yn brofiad ardderchog ar gyfer fy swydd bresennol lle rwyn gwirio, coladu a bwydo gwybodaeth i mewn ir Rhaglen Gwaith Cyfalaf, gan sicrhau bod y data yn gywir ac yn gyfredol. Mae bod yn y swyddfa yn golygu y gallaf fod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau tenantiaid, contractwyr a llu o asiantaethau mewnol ac allanol eraill, syn ychwanegu dimensiwn ychwanegol at fy rôl. “Rwyf wir yn mwynhau pob agwedd ar fy ngwaith, maen amrywiol, rydym yn dîm gwych ac nid oes byth eiliad ddiflas.”