Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ystyried paneli solar

Published: 10/03/2016

Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried datblygu dau safle ynni solar (ffotofoltaidd) ar safleoedd tirlenwi Brookhill a Standard Landfill ym Mwcle, cyn i’r cynigion gael eu cyflwyno gerbron y Cabinet yn ddiweddarach yn y mis. Bydd y ddau safle’n cynhyrchu tua 1200 MWh o ynni trydanol bob blwyddyn, sy’n ddigon o ynni ar gyfer 240 o gartrefi. Bydd yn arbed 13,500 tunnell o garbon monocsid yn ystod oes y cynlluniau. Disgwylir y caiff llawer o’r ynni a gynhyrchir ei ddefnyddio gan y Cyngor Sir yn uniongyrchol a hynny yn depo Alltami gerllaw, gan leihau costau ynni’r Cyngor a’i ôl-troed carbon yn sylweddol. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r cynnig hwn i’r Cabinet gan ei fod yn dangos pa mor benderfynol yw’r Cyngor o arbed arian mewn modd cynhyrchiol ac sy’n gwneud lles i’r amgylchedd. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i leihau costau a charbon. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Strategaeth Gwastraff a Diogelu’r Cyhoedd: Mae’r cynigion yn ffordd wych o ddefnyddio’r safleoedd tirlenwi gan ehangu oes y tyrbinau nwy presennol sy’n cynhyrchu trydan o’r nwyon gwastraff a gynhyrchir ar y safle. Maent hefyd yn diogelu ac yn gwella’r amgylchedd ar y ddau safle at y dyfodol.”