Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl Barchu14

Published: 12/06/2014

Cymerodd plant, pobl ifanc a gwasanaethau lleol ran yn yr Wyl barchu flynyddol a gynhaliwyd gan Ysgol Uwchradd Argoed yn ddiweddar. Mae Gwyl Barchu yn ddigwyddiad gwrth-fwlio gan Sir y Fflint syn canolbwyntio ar annog parch o fewn ysgolion a chymunedau. Cafodd dros 170 o blant ysgolion cynradd ac uwchradd y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai a thrafod bwlio ai effeithiau. Cafodd y digwyddiad eleni ei arwain gan ddisgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Argoed, gyda chymorth yr athrawes Jane Driffield, ac Emma Murphy o Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir y Fflint. Roedd y diwrnod wedi’i rannun dri sesiwn, roedd y cyntaf yn weithdy a gynlluniwyd gan ddisgyblion Argoed am seiber-fwlio, yn cynnwys fideo yr ysgol sydd wedi derbyn gwobr. Cafodd ail sesiwn ei ddatblygu gan Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint i helpu disgyblion i archwilio sut y gall cael eu trin yn annheg neun wahanol wneud i rywun deimlo. Yn olaf, yn ystod y drydedd sesiwn gafodd ei gadeirio gan Aled Burt, prif fachgen Argoed yn y dyfodol, roedd y disgyblion oedd yn mynychu yn gallu gofyn cwestiynau i banel o bobl broffesiynol a phobl ifanc sydd wedi bod yn gweithio i helpu i fynd ir afael â bwlio yn Sir y Fflint. Roedd y panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, ysgolion lleol, Cyngor Sir y Fflint, E-Treble 9 ar ymgynghorydd Lynn Williams. Dywedodd David Messum, uwch ymgynghorydd dysgu ar gyfer cynhwysiant a lles yn Ysgol Uwchradd Argoed: “Cafodd yr Wyl Barchu ei threfnu ai chyflwyno gan bobl ifanc o Ysgol Argoed ac ar draws Sir y Fflint. Cafodd ei gynllunion dda ai gyflwyno gyda phroffesiynoldeb a brwdfrydedd. Cafodd y gweithgareddau procior meddwl dderbyniad da a byddant yn rhoi syniadau cadarnhaol i bobl ifanc yn ein hysgolion ar sut y dylai parchu eraill gael ei hyrwyddo. Cafodd yr holl luniaeth ei baratoi gan y disgyblion syn rhan or prosiect Amser ar gyfer Newid. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Maen bwysig i bobl ifanc allu dod at ei gilydd a thrafod y materion hyn. Mae dangos parch at ei gilydd a’r llwyfan iawn i roi’r safbwyntiau hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i blant o sut mae eu gweithredoedd a’u geiriau’n cael eu dehongli gan eraill. Maer digwyddiad yn ffordd wych o ddysgu plant am fwlio a materion cysylltiedig. Pennawd Llun: Disgyblion a staff yn cymryd rhan yng Ngwyl Barchu 14.