Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydgysylltu Llwybr Cyswllt Cymru

Published: 14/03/2016

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio i uno Saltney (Caer) â Llandegla, gan gwblhaur llwybr cylch o amgylch Cymru gydar prosiect Llwybr Cyswllt Cymru newydd. Mae Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru yn ddau o lwybrau mwyaf poblogaidd Cymru, sy’n tynnu miloedd o gerddwyr i mewn bob blwyddyn a chynnig golygfeydd trawiadol. Maer gwaith hwn wedi bod yn bosibl o ganlyniad i grant gwerth bron i £35,000 gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir. Ariennir Cronfa Cymunedau’r Arfordir gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystâd y Goron. Maen cael ei ddarparu gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Dros bellter o ddeunaw milltir drwy bedair sir, sef Sir y Fflint, Gorllewin Swydd Caer a Chaer, Wrecsam a Sir Ddinbych, mae gwaith yn cael ei wneud i uwchraddio rhannau o’r llwybr troed, gan osod camfeydd newydd, gosod giatiau mochyn ac adeiladu llwybrau pren. Gan weithio mewn partneriaeth â thair sir arall, mae Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Stephen Lewis, yn rhedeg y prosiect a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Awst 2016. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Mae’r cymorth ar gyfer y prosiect hwn wedi bod yn drawsffiniol a thraws gwlad a hoffem ddiolch yn arbennig i holl staff hawliau tramwy Cynghorau, Sir y Fflint, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Wrecsam a Sir Ddinbych sydd wedi gwneud y llwybr twristaidd allweddol hwn yn bosibl. Dywedodd Stephen Lewis: Mae hwn yn brosiect mynediad gwych, maer llwybr yn mynd â chi drwy banorama amrywiol o iseldir, coetir a rhostir yr ucheldir. Bydd yn denu cerddwyr i fwynhaur ardaloedd arfordirol a gwledig trawiadol a geir yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn ogystal â darparu llwybr allweddol, mae Llwybr Cyswllt Cymru hefyd yn creu un or teithiau cerdded cylchol gorau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy’n uno rhannau iseldirol Aber Afon Dyfrdwy o Lwybr Arfordir Cymru gyda golygfeydd trawiadol ucheldir Bryniau Clwyd ac AHNE Dyffryn Dyfrdwy drwy gefn gwlad prydferth y gororau. Rhagwelir cynnydd yn y cyfleoedd i dwristiaid wrth i fwy a mwy o ymwelwyr ymweld â chyrchfannau allweddol megis Prestatyn, dechrau Llwybr Clawdd Offa, Y Fflint, Caer a Chaergwrle gydai gastell cudd yng ngororau Cymru. Press Release Pic 1.jpg Tri Fford stile.jpg Llun 1: Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint Llun 2: Dave Roscoe a Richard Williams o Tri Fford yn gosod camfa, Bretton