Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant yn nigwyddiad ‘Dragon’s Den’

Published: 11/03/2016

Cynhaliwyd digwyddiad tebyg i ‘Dragon’s Den’ yng Ngholeg Cambria ar ddydd Gwener 26 Chwefror. Roedd y digwyddiad am ddim wedii anelu at bobl sydd am fod yn fos arnynt eu hunain ac angen help i ddod yn entrepreneur. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant gyda 7 o entrepreneuriaid yn mynychu i gyflwyno eu syniad ir Dreigiau ac maent i gyd wedi derbyn adborth cadarnhaol. Y Dreigiau a gefnogodd y digwyddiad gan wirfoddoli eu hamser oedd Askar Sheibank, Prif Swyddog Gweithredol Comtek Network Systems, Christine Sheibani, Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes, Rheolwr Gyfarwyddwr Dfs4 SME Business Consultants & Mentors a Mike Scott o Mike Scott Associates. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Rwyn falch iawn bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr. Maer gefnogaeth ar cyngor a roddir mewn digwyddiadau fel y rhain i ddarpar entrepreneuriaid yn wirioneddol galonogol ac i gyd yn rhan or gwaith rhagorol syn digwydd ledled y sir i helpu pobl leol i gael gwaith. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint gyda chymorth gan Gyngor Sir y Fflint. Gan barhau or digwyddiad hwn, mae Clwb Menter Sir y Fflint sydd â’u haelodau i gyd yn entrepreneuriaid, yn cynnig gwybodaeth am ddim a gweithdai gyda siaradwyr ysbrydoledig o wahanol sefydliadau a sefydliad addysg uwch ac addysg bellach. Maer clwb yn rhad ac am ddim i’w fynychu ac yn cyfarfod bob pythefnos ar Gampws Cymunedol John Summers, Chester Road East, Y Fferi Isaf, Glannau Dyfrdwy CH5 1SE. Cynhelir y cyfarfodydd bob yn ail ddydd Gwener o 10.30am tan 12:30pm. or chwith: - Christine & Askar Sheibani, Comtek,Beverly Moseley, Communities First, Barry Evans, Evolift, Sharon Jones, Communities First, Jacqueline Blythe, JCPlus, Cllr Ian Dunbar, Cllr Andy Dunbobbin, Ewa Hogarth Jones, Word of Mouth Languages, Rona Griffiths, Coleg Cambria, Cllr Paul Shotton, Dave Fildes, DFS4, Jane Davies, JCPlus, Kate Thew, Communities First, Lynne Taylor, JCPlus, Lynn Williams, Coleg Cambria.