Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant y Ffair Brentisiaid gyntaf

Published: 17/03/2016

Cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint ei Ffair Brentisiaid gyntaf yr wythnos hon fel rhan o’r wythnos Prentisiaid Cenedlaethol. Roedd gan gyfanswm o 23 o fusnesau o Sir y Fflint a’r tu hwnt stondinau arddangos yn y digwyddiad cyntaf hwn ac roedd cyfle i dros 500 o ddisgyblion o lawer o Ysgolion Uwchradd Sir y Fflint edrych o gwmpas yr arddangosfa. Cynhaliwyd y Ffair mewn dwy sesiwn, bore a phrynhawn, er mwyn caniatáu i gymaint â phosibl o bobl ifanc fod yn bresennol. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, a agorodd ddwy sesiwn y Ffair: “Mae’r Ffair Brentisiaid hon wedi bod yn gyfle gwirioneddol i’n myfyrwyr ysgol uwchradd edrych ir dyfodol a thrafod opsiynau prentisiaeth gyda darpar gyflogwyr. Roedd hefyd yn gyfle gwych i glywed o lygad y ffynnon gan Alwen Williams am ymagwedd BT tuag at brentisiaethau yn ogystal â chlywed am hanes personol Jessica Ashton fel prentis BT. Dechreuodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru, gyda BT yn syth or ysgol ac mae hi bellach yn bennaeth sefydliad BT yng Nghymru. Mae Jessica ar ail flwyddyn prentisiaeth Uwch. Ymunodd â BT ar ôl cwblhau gradd sylfaen. Roedd y digwyddiad, yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, yn cynnig arddangosiadau byw a sesiynau rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o broffesiynau, gan gynnwys y gwasanaeth tân, therapi harddwch ar diwydiant adeiladu. Yn ogystal, roedd cyfle i’r rhai a oedd yn bresennol Roi cynnig ar Grefft a chael cyngor ar ysgrifennu CV. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr o fusnesau a oedd yn bresennol a mwy o wybodaeth am eu cynlluniau prentisiaeth a swyddi gwag, cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu kate.catherall@flintshire.gov.uk.