Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella Llwybr Arfordir Cymu ymhellach

Published: 16/03/2016

Mae Peirianwyr Cyngor Sir y Fflint, swyddogion Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad wedi ymuno i greu llwybr beicio arall o dan Bont Rheilffordd Penarlâg yn Shotton. Yn dilyn stormydd drwg dros y blynyddoedd diwethaf, tanseiliwyd un or argloddiau a bu’n rhaid cau’r llwybr beicio bob tro roedd y llanw’n uchel. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Fe lwyddon ni i sicrhau £20,000 gan gronfa Llwybr Arfordir Cymru ac mae’n contractwyr, G Lewis, wedi gwneud gwaith ardderchog yn gwella’r llwybr troed a beicio hwn. Bydd y gwaith yn parhau pan gawn ragor o arian. Mae’r llwybr newydd yn fwy diogel a bydd o fudd i’r gymuned leol a phawb sy’n ei ddefnyddio, gan gynnwys yr elusen beicio Sustrans.” O’r chwith: Stuart Jones – Swyddog Hawliau Tramwy, Graham Harper, Sustrans, Tom Woodall – Pennaeth y Gwsanaeth Cefn Gwlad a’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd