Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofrestrwch i bleidleisio

Published: 18/03/2016

Wrth i brif ymgyrch hysbysebu cenedlaethol gael ei lansio ledled Cymru i annog pleidleiswyr i gofrestru cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pobl leol i ymweld â www.gov.uk/register-to-vote i gofrestru i bleidleisio. Ar ddydd Iau 5 Mai bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn mynd i bleidleisio i ethol Aelod Cynulliad a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Maer Comisiwn Etholiadol wedi lansio ei ymgyrch cofrestru pleidleiswyr cenedlaethol i atgoffa pobl i gofrestru erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun 18 Ebrill. Yng Nghymru, bydd hysbysebion yn ymddangos ar y teledu, radio a gwasanaethau fideo ar alw ar lein. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws Cymru gan y Comisiwn a sefydliadau partner, a ddechreuodd yn gynharach eleni. Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau: “Mae amser nawr yn rhedeg allan i wneud yn siwr y gallwch chi gymryd rhan yn yr etholiadau pwysig hyn yng Nghymru, felly byddwn yn annog pawb yn Sir y Fflint i weithredu nawr os nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio. Mae ein neges yn syml: ni allwch bleidleisio, os nad ydych wedi cofrestru erbyn 18 Ebrill. Maen hawdd ac ond yn cymryd ychydig funudau ar-lein- ewch i www.gov.uk/register-to-vote Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol, Cymru: “Mae ein hymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ar draws Cymru yn anelu i annog unrhyw un sydd heb gofrestru eto, i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl ifanc, myfyrwyr a phobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn llai tebygol o gofrestru i bleidleisio. Os nad ydych wedi cofrestru, ni fyddwch yn gallu dweud eich dweud ar faterion syn effeithion uniongyrchol ar eich bywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru. “Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd i’w wneud ar-lein yn gov.uk/register-to-vote, mae gennych tan ddydd Llun 18 Ebrill yn unig os ydych am bleidleisio yn yr etholiadau pwysig hyn yng Nghymru ym mis Mai.