Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2016

Published: 18/03/2016

Yr wythnos nesaf, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae y Sir 2016 ar Cynllun Gweithredu 2016/17 dilynol sydd angen ei anfon at Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Hamdden: “Fel awdurdod lleol, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol o dan y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth cynlluniau chwarae a mannau chwarae yn y sir. Trwy gynnwys yr asesiad hwn gyda chynigion yn y dyfodol ar gyfer cynnal mannau chwarae a chynlluniau chwarae haf, mae hyn yn darparu trosolwg llawn o ddarpariaeth chwarae yn ein Sir.” Maer adroddiad yn cyfeirio at y rhaglen cynllun chwarae dros yr haf ar gyfer 2015 yn ogystal â thrafod goblygiadau ariannol ar gyfer cyflwyno cynllun chwarae haf yn 2016 a 2017. Yn ogystal, bydd gofyn i’r Cabinet argymell bod Fforwm Chwarae Strategol Sir y Fflint yn cael ei ddiwygio yn 2016 i ffurfio fforwm aml-asiantaeth i arwain a monitror Cynllun Gweithredu Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae 2016. Nid yw cyllid Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru ar gael bellach i gefnogir gwaith o gyflawnir cynllun chwarae yr haf hwn. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddod o hyd i gyllid am un flwyddyn i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer yr haf hwn. Mae effaith y golled hon o gyllid yn effeithio ar gyflwynor rhaglen haf 2017. Gofynnwyd i Gynghorau Tref a Chymuned ystyried cynyddu eu cyfraniad ac i archwilio modelau cyflenwi amgen i gynnal y ddarpariaeth o gynlluniau chwarae yn eu hardaloedd. Bydd cyfnod o gynllunio ac ymgynghori yn awr yn cael ei gynnal er mwyn gallu ei gyflawni yn haf 2017. Mae Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Hamdden wedi datblygu model darparu amgen syn rhoi cyfle i’r cyngor leihau effaith gostyngiad ar ardaloedd chwarae ag offer i blant gan helpu i ddiogelu cyfleoedd chwarae i blant yn y sir. Bydd y model darparu amgen yn galluogi i ragor o ardaloedd chwarae fesul cymuned gael eu rhedeg gan y Cyngor. Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn arbedion effeithlonrwydd y bydd y model darparu amgen yn ei greu. Os cytunir ar hyn, byddai trafodaethau pellach gyda chymunedau yn digwydd dros y misoedd nesaf, a byddai gofyn i gymunedau ystyried sut y byddai’r ardaloedd chwarae sy’n weddill yn cael eu rheoli ar lefel cymunedol. Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ar 29 Mawrth.