Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobr Tennis
Published: 02/06/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn gwobr cymdeithas tennis i gydnabod y
cyfraniad a wnaed tuag at ddatblygu’r gamp yn y Sir.
Mae Tennis Cymru wedi canmol adran Datblygu Chwaraeon y Cyngor am y gwaith y
maent wedi’i wneud i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn tennis.
Cyflwynwyd y wobr am Gyfraniad Awdurdod Lleol i’r Cyngor yng Nghanolfan Hamdden
Bwcle yn ystod Penwythnos Tennis Mawr Prydain ym mis Mai, sy’n ddigwyddiad sydd
wedi’i gynllunio i hybu tennis ar draws y wlad.
Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys sioe deithiol tennis i blant ysgolion
cynradd; twrnameintiau tennis ysgolion cynradd ac uwchradd; cyrsiau addysg a
hyfforddiant i athrawon a hyfforddwyr; sesiynau tennis cynhwysol a chreu dau
glwb tennis newydd ym Mwcle a Threffynnon.
Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Hamdden: “Rydym wrth ein
bodd o fod wedi derbyn y wobr i amlygu’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud i
hybu tennis. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn dod â chymaint o fuddion ac rwyf
yn gobeithio y bydd y cyrtiau a adnewyddwyd yn y Sir a’r holl weithgareddau
sydd ar gynnig yn annog pobl i godi raced ac ymuno.”
Meddai Peter Drew, Prif Weithredwr Tennis Cymru: “Llongyfarchiadau i Gyngor Sir
y Fflint ar ennill y wobr hon, sy’n haeddiannol iawn. Mae’r Awdurdodau Lleol
sy’n bartneriaid inni yn dyngedfennol i gael mwy o bobl yn chwarae ac yn
mwynhau tennis yn y gymuned. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi rhoi cefnogaeth wych
wrth helpu i weithredu cyfleoedd tennis newydd i’r gymuned ar draws Sir y
Fflint, yn arbennig gyda’n hymgyrch i gael mwy o gyfleoedd tennis mewn
Canolfannau Hamdden a Chanolfannau Cymunedol eraill.
“Rydym yn gwybod bod yna nifer enfawr o bobl a fyddai’n hoffi chwarae tennis,
ond nid o reidrwydd o fewn clwb tennis ffurfiol, felly mae’r gwaith y mae
Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud i helpu i agor y cyfleoedd tennis newydd hyn yn
wych.”
Capsiwn y Llun Chwith-Dde oedolion: Matt Hayes o Gyngor Sir y Fflint, Peter
Drew, Prif Weithredwr Tennis Cymru a Kathryn Rymer, Hyfforddwraig Clwb Tennis
Yr Wyddgrug gyda phlant yn cymryd rhan ym Mhenwythnos Tennis Mawr Prydain.