Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


50fed Cwsmer Bodlon!

Published: 21/03/2016

Cyngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun yn 2014. Llai na dwy flynedd ers hynny ac maer cwmnin mynd o nerth i nerth. Wedii gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad at dai fforddiadwy, mae NEW Homes (Tai Gogledd Ddwyrain Cymru) wedi ei sefydlu gan y Cyngor i gynyddur opsiynau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Maen cynnig nifer o wasanaethau rheoli tai wedi’u teilwra sydd wediu cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai fforddiadwy ar draws y sir. Ac maer cwmni newydd rentu ei 50fed eiddo yn Overlea Drive, Penarlâg. Dywedodd Rheolwr NEW Homes, Phil Gilbert: Maen bleser gallu trosglwyddor goriadau in 50fed eiddo rhent mewn llai na 2 flynedd i Andrew Trinder. Gobeithiwn y gallwn barhau i ddarparu eiddo rhent o ansawdd a gwasanaeth o ansawdd i drigolion Sir y Fflint am flynyddoedd i ddod. Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Cadeirydd Bwrdd NEW Homes a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Roeddwn yn gwbl hyderus y byddai NEW Homes yn llwyddiant mawr ac roeddwn yn iawn. Yn Sir y Fflint, rydym yn parhau i weithio i ddiwallu anghenion ein trigolion trwy gynlluniau cyffrous fel hyn syn gwellar opsiynau tai sydd ar gael in preswylwyr yn sylweddol. Yn ogystal â rhentu ei eiddo ei hun, mae gan NEW Homes ystod o gynigion ar gyfer landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaethau parod i denantiaid’. Maer cwmni yn cynnig gwasanaeth gosod a rheoli eiddo a reolir yn llawn, a chynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo ir cwmni a chael mynediad i eiddo cyngor addas. Mae NEW Homes yn eiddo llwyr i Gyngor Sir y Fflint. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwmni ar gwasanaethau a gynigir trwy fynd i wefan NEW Homes www.northeastwaleshomes.co.uk neu ffonio NEW Homes ar 01352 701400. or chwith: Phil Gilbert, Rheolwr dros dro NEW Homes, Cyng Bernie Attridge, Cadeirydd y Bwrdd NEW Homes, Andrew Trinder, Melville Evans, Swyddog Arweiniol NEW Homes