Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Theatr Gyfrinachol yn y Fflint

Published: 23/03/2016

Dylai pobl o amgylch y Fflint ac yn y Fflint gadw eu llygaid au clustiau ar agor yn ystod Dydd Sul y Pasg a dydd Llun Gwyl y Banc ... yn y Fflint ac o amgylch y Fflint, er enghraifft.... yn y Castell... neu ar Stryd Fawr y Fflint.... neu efallai hyd yn oed mewn archfarchnad adnabyddus yn y Fflint tua 1.30pm, 2.30pm neu 3.30pm.... Mae 2016 yn nodi 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare. Ac yn ystod y Pasg eleni mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru syn gyfrifol am ddiogelu a chadw nifer o gofebion, gan gynnwys Castell y Fflint, a Gwasanaeth Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint yn noddi digwyddiadau anarferol a chyffrous i ddathlu cysylltiad arbennig y Bardd â Chastell y Fflint. Nid yw pawb yn gwybod fod y Brenin yn ildio i fyddin gwrthryfelwyr Henry Bolingbroke yng Nghastell y Fflint, yn y ddrama wych, Richard II gan Shakespeare. Yna gorymdeithir Richard i Lundain lle y maen ildior goron ac yn cael ei ladd, gan arwain y ffordd i Bolingbroke i ddod yn Frenin yn ei le - Henry IV. Dywedodd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden: Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad partneriaeth cyffrous hwn sydd yn dod âr ddrama eiconig ai gysylltiad â Chastell y Fflint yn fyw i gynulleidfaoedd lleol ac ymwelwyr. Dylid amlygu a hyrwyddor cysylltiad rhwng y Fflint a Shakespeare yn eang mewn nod i ddenu mwy o ymwelwyr ir ardal, ac yn ystod Blwyddyn Antur Cymru nid oes cyfnod gwell i gyflwyno perfformiadau dramatig a digwyddiadau ymgysylltiol yn ein trefi a safleoedd hanesyddol. Dywedodd Janys Chambers, awdures a gafodd ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA a chyfarwyddwr y digwyddiad: Nid ydym eisiau rhoi gormod o wybodaeth, ond ar hyn o bryd mae theatr dros dro yn boblogaidd iawn, ac ar Sul y Pasg a dydd Llun y Pasg, efallai y byddain syniad i chi dreulio eich prynhawniau yn y Fflint ac o amgylch y Fflint, er enghraifft.... yn y Castell,.... neu ar Stryd Fawr y Fflint.... neu mewn archfarchnad adnabyddus yn y Fflint tua 1.30pm, 2.30pm neu 3.30pm.... Dydych chi byth yn gwybod pa gymeriadau hanesyddol lliwgar a all ymddangos.... na beth fyddant yn ei wneud! Efallai y bydd y perfformiadau cyfrinachol yn cynnwys yr actor Richard Hand (Emmerdale, Coronation Street, Hollyoaks) yr actor Cymreig poblogaidd Richard Shackley (Clwyd Theatr Cymru, Theatr Iolo) a Jessica Loren, actores ifanc newydd. Ychwanegodd Janys: Credwn y bydd ein digwyddiadau annisgwyl yn llawn hwyl ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, wrth i ni ddathlu safle Cymreig eiconig an dramodydd gorau erioed. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau CSFf Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk 01352 704027.