Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn ymrwymo i gefnogi rhaglen frechu estynedig

Published: 23/03/2016

Yng nghyfarfod dydd Mawrth (22 Mawrth), cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint adroddiad ychwanegol a gyflwynwyd ar gais y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol. Cyflwynodd y Cynghorydd Jones argymhelliad ir Cyngor ymrwymo ei gefnogaeth i ymestyn rhaglen frechu llid yr ymennydd B i bob plentyn hyd at 11 oed. Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn deiseb ac arni dros 820,000 o lofnodion i gefnogi ymestyn y rhaglen, a chyflwynwyd yr adroddiad hwn i ymateb i gefnogaeth y cyhoedd ar gyfer y ddeiseb hon. Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Jones: “Rydw i’n hapus iawn fod y Cabinet wedi cefnogi’r argymhelliad hwn. Rydym yn gofyn ir Llywodraeth edrych ar ymestyn y rhaglen frechu a gyflwynwyd ym mis Medi 2015. Yn ei hanfod, bydd pob plentyn a aned ar ôl 1 Mai 2015yn cael eu cynnwys, ond mae hynnyn gadael llawer o blant diamddiffyn sydd heb dderbyn y brechiad a allai achub eu bywyd. Caiff y clefyd hwn effaith ofnadwy ar blant a’u teuluoedd, ac mae modd ei atal.” Mae Pwyllgor Deisebau y Senedd, ar y cyd â’r Pwyllgor Iechyd, wrthi’n cynnal ei ail sesiwn dystiolaeth ar y brechlyn llid yr ymennydd B, ac maent wedi cytuno i drefnu trafodaeth ar y ddeiseb hon yn y Senedd ar ôl i’r sesiynau tystiolaeth gael eu cynnal. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi dyddiad maes o law.