Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymeradwyo cyllid i ddiogelu priffyrdd

Published: 24/03/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru fod dros £0.5m o’r cyllid y gwnaeth gais amdano i wella diogelwch Rhwydwaith Priffyrdd y Cyngor yn 2016-17 wedi’i gymeradwyo. Dyma’r cynlluniau a gymeradwywyd: Gwella’r groesfan sebra ar yr A5151 London Road yn Nhrelawnyd Gwella’r gyffordd rhwng Liverpool Rd / Alltami Rd ger y ganolfan feddygol newydd ym Mwcle Gwella diogelwch ar y briffordd ar yr A5104 ym Mhenymynydd Gwella diogelwch ar y briffordd yn Lloc Gwella canolfannau trafnidiaeth ar hyd y llwybrau bysiau craidd arfaethedig er mwyn hybu trefniadau Trafnidiaeth Gymunedol arfaethedig y Cyngor Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ei fod yn croesawu’r newyddion da: “Mae’r ceisiadau llwyddiannus yn dilyn proses gadarn a thryloyw o ddethol cynlluniau addas, gan sicrhau mai’r cynlluniau pwysicaf yn y Sir sy’n cael eu cyflwyno yn y cais am arian. Bydd pob un o’r cynlluniau’n cyfrannu at wella diogelwch a hygyrchedd rhwydwaith priffyrdd Sir y Fflint, sef un un o brif flaenoriaethau’r weinyddiaeth hon”. Caiff yr holl gynlluniau eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2017. Pennawd: Y Cynghorydd Attridge gyda disgyblion y tu allan i Ysgol Trelawnyd yn gynharach eleni