Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhentu Doeth Cymru - ydych chin barod?

Published: 30/03/2016

Rhentu Doeth Cymru yw’r enw brand ar gyfer gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ddiwedd y flwyddyn. Mae’r gyfraith newydd yn gymwys i holl landlordiaid ac asiantau eiddo preswyl preifat yng Nghymru. Os ydych yn rheoli neu’n berchen ar eiddo sy’n cael ei rentu’n breifat a/neu’n byw mewn eiddo rydych yn ei rentu, bydd y Ddeddf hon yn effeithio arnoch chi. Bydd Rhentu Doeth Cymru yn gwella delwedd y sector rhentu preifat. Bydd o fudd i’r rhai sy’n rhentu eu cartref yn y sector ac yn gwella arferion landlordiaid ac asiantau. Ym mis Tachwedd 2015, rhoddwyd 12 mis i landlordiaid ac asiantau gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a chael trwydded ganddynt. Mae modd gwneud hyn ar-lein ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y pwyslais ar godi ymwybyddiaeth o’r gofynion newydd a sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â nhw. Mae cyrsiau cymeradwy gorfodol wedi’u rhestru ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Gallwch ddod o hyd i’r lleoliad agosaf a’u manylion cyswllt a neilltuo lle ar-lein. I ddysgu rhagor, ewch i www.rentsmart.gov.wales neu ffoniwch 03000 133344. Mae’r ddeddfwriaeth newydd a Rhentu Doeth Cymru yn disodli ‘r cynllun achredu gwirfoddol i landlordiaid a oedd ar waith yng Nghyngor Caerdydd. Yn y dyfodol, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau gorfodi yn erbyn landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau cyfreithiol ar ran yr awdurdod trwyddedu.