Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir sydd yn gyfeillgar tuag at Dementia

Published: 11/04/2016

O fewn yr un wythnos, mae dwy dref yn Sir y Fflint wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol gan Gymdeithas Alzheimer’s fel cymunedau syn gyfeillgar tuag at dementia! Mae hyn yn golygu mai trefi Y Fflint a Bwcle yw’r cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn achrediad or fath, gan ymuno â nifer o ddinasoedd, trefi a phentrefi sydd bellach yn edrych ar beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn cefnogi pobl sydd â dementia yn well au galluogi i fyw yn dda yn y gymuned. Dywedodd Cynghorydd Sir y Fflint, Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r Fflint a Bwcle wedi gweithion galed i ennill cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer’s ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol i sicrhau bod pob tref yn gymuned sy’n gyfeillgar tuag at ddementia ac yn lle y gall pobl â dementia gael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y dref. Mae ennill y ddau achrediad cyntaf yng Ngogledd Cymru yn yr un wythnos yn wych, ac mae’n brawf o waith caled, pobl ofalgar ein sir.” Fe ddaw’r gydnabyddiaeth yn Y Fflint, yn dilyn gwaith sydd wedi ei wneud gan grwp dan gadeiryddiaeth y Parchedig Brian Harvey, Rheithor Fflint, a chynghorydd tref, a ddywedodd: “Dros y deunaw mis diwethaf, maer grwp wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o ddementia, yn ogystal â sefydlu cyfarfodydd rheolaidd yn eglwys y plwyf ar gyfer pobl â dementia au gofalwyr. Mewn partneriaeth gyda siopau yn Stryd yr Eglwys, fe drefnwyd nosweithiau siopa hwyrnos yn y cyfnod cyn y Nadolig, a llwyfannwyd drama or enw The D-Word a oedd yn archwilio materion yn ymwneud â dementia. Ym Mwcle, mae grwp dan gadeiryddiaeth dyn busnes lleol wedi cynnal mentrau tebyg i gyflawni eu hachrediad. Dywedodd Ged: “Rwyn falch iawn o dderbyn y newyddion bod Bwcle wedi ennill y statws i weithio tuag at fod yn dref sydd yn Gymuned Gyfeillgar tuag at Dementia. Dyma bartneriaeth wirioneddol rhwng pobl syn byw gyda dementia au teuluoedd au gofalwyr, busnesau lleol, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ar Eglwys gyda chefnogaeth lawn gan ein tref ar Sir. Mae hyn yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan ddaw pobl ynghyd â chyd ymrwymiad i sicrhau fod pobl â dementia yn ein tref yn gallu byw’n dda.” Maer ddau grwp wedi cael cefnogaeth dda gan Dîm Cynllunio a Datblygu Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint. Os oes hoffai unrhyw un fod yn gyfaill dementia, neu drafod achredu eu grwp neu fusnes, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk. PENNAWD Y LLUN: Y bobl a wnaeth iddo ddigwydd! Rhes flaen or chwith: Rose Marie Dennan – Grwp Cymysg Dydd Llun Y Fflint, Jo Lane - Cymdeithas Alzheimer’s, Donna Redgrave - Materion Cof RMD Bwcle, Dawn Jones - Gweithiwr Cefnogi Dementia Bwcle, Angela Wedgewood – Age Connect y Fflint, Cynghorydd Christine Jones - Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling - Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Rhes gefn or chwith: Luke Pickering-Jones, Swyddog Cynllunio a Datblygu, Rebecca Fitzpatrick - Bwcle, y Cynghorydd Andrew Williams - Bwcle a Ged Fitzpatrick - Bwcle.