Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cist Offer

Published: 06/06/2014

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi rhoi cist o offer cymunedol i ddisgyblion ysgol i ddiolch iddynt am helpu i wella’r amgylchedd lleol. Dair blynedd yn ôl, mabwysiadodd Ysgol Uwchradd Cei Connah safle ar Rock Road yn y dref, a elwir yn lleol yn ‘The Rock’, fel rhan o ymgyrch i gael disgyblion i gyfrannu at wella safon bywyd yn y gymuned leol a dysgu am gefn gwlad. Mae myfyrwyr yr ysgol wedi cynorthwyo ceidwaid arfordirol Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint i lanhaur safle ac maent wedi chwarae rhan frwd yn y gwaith o wella’r amgylchedd a chynefinoedd bywyd gwyllt. I gydnabod ymrwymiad hirdymor yr ysgol, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi rhoi cist o offer cymunedol i gynhorthwyo’r disgyblion â’u gweithgareddau. Mae’r pecyn yn cynnwys ffyrch a rhawiau garddio, hofiau garddio, llifiau bwa, siswrn tocio a chasglwyr sbwriel. Meddai Mary Daniels, Gweithiwr Cyswllt Teuluoedd yn Ysgol Uwchradd Cei Connah: “Mae’r dysgwyr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah bob amser yn barod i gymryd rhan mewn gwaith cymunedol a bydd y gist offer yn ein galluogi i adeiladu ar yr ymgysylltiad cymunedol hwn .” Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae’r ysgol wedi gwneud ymrwymiad mawr, nid yn unig i’r ceidwaid ond i helpu’r amgylchedd hefyd. Bydd yr arwydd hwn o ddiolchgarwch gan y ceidwaid yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan yn y prosiect am flynyddoedd i ddod ac yn darparu cyfle dysgu gwych i’r disgyblion. Llun o’r chwith i’r dde: athrawes o Ysgol Uwchradd Cei Connah, Mary Daniels, gyda’r disgyblion a cheidwad yr arfordir, Karen Rippin.