Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwyddiant â Chyllid Llyfrgelloedd 
  		Published: 11/04/2016
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Sir y Fflint yn mynd i elwa o gyllid Llywodraeth Cymru 
i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Treffynnon wedi derbyn £120,000 a fydd yn golygu y gall 
cynlluniaur Cyngor i symud y llyfrgell ir Ganolfan Hamdden i greu canolbwynt 
canolog syn cynnig ystod o wasanaethau fynd yn eu blaenau.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Hamdden, y 
Cynghorydd Kevin Jones:
 Mae hyn wir yn newyddion iw groesawu ac yn golygu y gallwn bellach symud 
ymlaen i ail-leoli Llyfrgell Treffynnon yn y Ganolfan Hamdden. Bydd hyn yn 
gwneud cymaint o wahaniaeth drwy greu canolbwynt modern yn Nhreffynnon yn debyg 
ir un yr ydym wedii agor yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. 
Mae cydleoli yn golygu y bydd oriau agor y ganolfan yn hirach a gall cwsmeriaid 
gael mynediad at ystod ehangach o wasanaethau mewn un lle cyfleus. Bydd y 
symudiad hwn yn cryfhau uchelgeisiau hirdymor y Cyngor yn sylweddol mewn 
perthynas â gwasanaethau hamdden ac mae hefyd yn cefnogi rhaglen Trosglwyddo 
Asedau Cymunedol y Cyngor.
Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris 
Bithell,:
Rwyn falch iawn ein bod wedi sicrhaur cyllid hwn. Bydd y canolbwynt newydd 
sbon hwn yn un croesawgar ac rydym yn gobeithio annog a denu defnyddwyr newydd, 
yn enwedig plant ifanc, gyda mannau gweithgareddau, Wi-Fi am ddim a mannau 
dysgu. Bydd pobl yn gallu eistedd a darllen neu gael mynediad at y 
cyfrifiaduron wrth aros am aelodau or teulu syn defnyddior cyfleusterau 
eraill yn y ganolfan. 
Maer gwaith i fod i ddechrau yn ddiweddarach eleni ar dyddiad agor 
arfaethedig ar hyn o bryd yw Ionawr 2017.