Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Un wythnos i fynd! Cofrestrwch nawr er mwyn cael dweud eich dweud ddydd Iau 5 Mai

Published: 11/04/2016

Gyda dim ond wythnos i fynd tan y dyddiad cau, maer Comisiwn Etholiadol a Chyngor Sir y Fflint yn annog trigolion i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio. Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cymryd rhan yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, os ydych am allu pleidleisio a chael dweud eich dweud yn yr etholiadau hyn, yw dydd Llun 18 Ebrill. Dywedodd y Swyddog Canlyniadau: Colin Everett: Gyda dim ond wythnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn yng Nghymru. Mae ein neges yn un syml: Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 18 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio. Byddwn yn annog pawb yn Sir y Fflint weithredu nawr os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio ac i wneud cais ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.” Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Llun 18 Ebrill 2016 felly nid oes gennych lawer o amser i sicrhau eich bod wedi cofrestru ac y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau pwysig hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar 5 Mai. Yn ôl ein gwaith ymchwil, y rheswm pennaf pam nad yw pobl wedi cofrestru yw eu bod wedi symud ty, gyda dau o bob pump o bobl yng Nghymru yn nodi mai dymar esboniad. Dylai pob cartref fod wedi cael ein llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr syn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru ac i bleidleision hyderus. Gallwch weld copïau on llyfryn yn www.fymhleidlaisi.co.uk neu gallwch archebu copi drwy ffonio 0800 3 280 280.”