Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Penderfyniad terfynol am ysgolion lleol

Published: 14/04/2016

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn dod i benderfyniad ynglyn â’r cynigion i gau Ysgol Maes Edwin, Mynydd y Fflint ac Ysgol Llanfynydd pan fydd yn cyfarfod ar 19 Ebrill. Yn unol âr Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol, dechreuodd cyfnod ymgynghori ffurfiol ar 21 Hydref a daeth i ben ar 2 Rhagfyr 2015. Maer adroddiadau ar gyfer Ysgol Maes Edwin ac Ysgol Llanfynydd yn cynnwys crynodeb or materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymateb i bob un or materion a godwyd, a barn Estyn yn llawn (fel y’i darperir yn ei ymatebion ymgynghori) am rinweddau cyffredinol y cynigion. Penderfynodd y Cabinet yn y gorffennol fod Cynigion Statudol yn cael eu rhoi i’r ddwy ysgol, ac fe gyhoeddwyd y rhain ar 29 Ionawr ac aethant ymlaen tan 26 Chwefror 2016. O dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion mae’r cynigion ar gyfer y ddwy ysgol yn cael eu pennu gan Gabinet y Cyngor, yn hytrach na Gweinidogion Cymru. Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: Rydym yn deall bod adolygu dyfodol unrhyw ysgol yn ddadleuol ac yn emosiynol. Mae gan ddisgyblion, rhieni, gofalwyr ac athrawon, y gorffennol ar presennol, gysylltiadau cryf ag ysgolion lleol ac meant yn rhan ou storïau bywyd. Fodd bynnag yn y cyfnod anodd hwn, rydym yn wynebu sefyllfa heriol o orfod cydbwyso sensitifrwydd teimladau’r gymuned ar y naill law â darparu addysg gynradd o safon uchel sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy. Ni all y Cyngor osgoi gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol sydd er budd y disgyblion a’r myfyrwyr. Yn ystod yr ymgynghoriad, archwiliwyd yr opsiwn i ffedereiddio, ond yn anffodus nid oedd unrhyw un o’r ddwy ysgol yn gallu nodi ysgol arall a oedd yn barod i bartneru neu ysgolion i ffedereiddio â nhw. Byddwn yn sicrhau trosglwyddiad mor esmwyth ag sy’n bosibl ar gyfer yr holl ddisgyblion, yn enwedig ar gyfer dysgwyr syn agored i niwed fel y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â disgyblion, eu rhieni ac athrawon i wneud trefniadau pontio priodol ar gyfer disgyblion i ymgyfarwyddo âu hamgylcheddau newydd. Maer Cyngor wedi dangos bod digon o gapasiti yn y rhwydwaith ysgolion lleol i ddarparu ar gyfer disgyblion o Ysgol Llanfynydd pe bai’n cau. Mae Estyn yn cadarnhau’r farn hon yn ei ymateb. Fodd bynnag, gellir creu lleoedd ychwanegol yn Ysgol Parc Y Llan, Treuddyn os oes angen, a hynny heb unrhyw gost neu gost isel iawn i’r ysgol honno, ar gyfer pob un o ddisgyblion presennol Ysgol Llanfynydd. Mae digon o gapasiti yn y rhwydwaith ysgolion lleol hefyd ar gyfer disgyblion o Ysgol Maes Edwin pe bai’n cau. Yn ôl Estyn, Maer awdurdod lleol wedi rhoi rhesymeg glir ar gyfer y manteision disgwyliedig arfaethedig ou cymharu âr sefyllfa bresennol mewn perthynas â chyllid, lleoedd dros ben ar dilyniant a’r cynnydd yn nysgur disgyblion. Dywedodd Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint, Ian Budd: Mae canran y lleoedd dros ben yn ysgolion Sir y Fflint yn dal i fod yn uwch na tharged Llywodraeth Cymru o 10%. Gan fod cyllid ar gyfer ysgolion yn cael ei seilio’n bennaf ar niferoedd disgyblion, mae lleoedd dros ben yn golygu fod swm anghymesur o arian yn cael ei wario ar y seilwaith (megis adeiladau) a chostau sefydlog sy’n gysylltiedig â rhedeg ysgol (megis arweinyddiaeth a gweinyddu). Mae angen i ni sicrhau fod cyllid refeniw addysg yn cael ei ddefnyddio i sicrhau fod y cymarebau disgybl:athro yn cael eu cadw ar lefel briodol i wneud gwahaniaeth uniongyrchol i ddysgwyr. Gan fod cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau a chostau ysgolion yn parhau i godi, o ganlyniad i newidiadau yn yswiriant gwladol a phensiynau athrawon, mae’r angen i ail-flaenoriaethu a newid yn bwysicach fyth. Rydym yn cydnabod yn llwyr bod angen i gymunedau ysgolion ar awdurdod lleol weithio gydai gilydd i gynorthwyo dysgwyr trwy gyfnod heriol o newid. Mae ymateb ffurfiol Estyn ir ymgynghoriad yn cadarnhau barn yr arolygiaeth annibynnol bod y cynnig hwn yn debygol o gynnal safonau presennol y ddarpariaeth addysg yn yr ardal o leiaf.