Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taliadau Uniongyrchol - cydnabod arfer da yn Sir y Fflint

Published: 15/04/2016

Yn dilyn adolygiad a gynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Cyngor Sir y Fflint yn enghraifft o arfer da ym maes Taliadau Uniongyrchol i oedolion ac y dylid eu hefelychu ledled y DU. Mae dros 388 o bobl yn Sir y Fflint yn awr yn defnyddio taliadau uniongyrchol - sy’n gynnydd o 89% ers 2012, sef dros 11% o holl gleientiaid y gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Yn Sir y Fflint hefyd y gwelwyd y cynnydd canrannol mwyaf mewn taliadau uniongyrchol ar gyfartaledd rhwng 2006/07 a 2014/15 - sef cynnydd o 464% - a nododd yr Archwilydd Cyffredinol fod hynny i’w briodoli i safon y canllawiau a roddir. Dim ond dau gyngor, a Sir y Fflint yw un o’r rhain, sydd â ffurflenni cais ar-lein, a soniwyd yn benodol am Ganllawiau Hwylus Sir y Fflint, sydd wedi’u hysgrifennu mewn iaith glir a hygyrch iawn. Mae Sir y Fflint hefyd yn annog defnyddwyr i gronni adnoddau a hyd yn oed i greu gwasanaethau gofal newydd a mwy priodol drwy gydweithredu a drwy fentrau cymdeithasol. Dywedodd yr aelod dros Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghabinet Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones: Roeddem yn gwybod bod rhai problemau cychwynnol ond mae’r rheini wediu datrys bellach ac maen braf cael y gydnabyddiaeth hon gan y WAO. Rydym wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus wrth ddatblygu’r maes hwn – ac mae ein perfformiad wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol. Hoffwn longyfarch yr holl dîm am weithio mor galed i wneud gwahaniaeth ac i sicrhau bod Sir y Fflint yn cael ei ystyried yn enghraifft wych.” Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i rai trigolion syn gymwys i gael cymorth i ddiwallu eu hanghenion gofal. Gallant ddewis i’w hawdurdod lleol roi’r arian, yn lle gwasanaeth iddynt. Yna, gallant ddefnyddior arian hwn i drefnu cymorth syn addas iddyn nhw a’u ffordd nhw o fyw. Dyma sy’n cael ei alw’n Daliadau Uniongyrchol.