Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pobl yn aros i fynd i mewn i’r Ffair Swyddi!

Published: 21/04/2016

Daeth cannoedd i Neuadd Ddinesig Cei Connah i gael gwybodaeth am swyddi, sgiliau a hyfforddiant i hybu cyflogaeth yn Sir y Fflint. Digwyddiad rhyngweithiol oedd hwn i roi cyfle i oedolion a phobl ifanc gyfarfod â chyflogwyr, sefydliadau addysgol ac asiantaethau cymorth. Roedd dros 300 o swyddi gwag ar gael, mewn gwahanol sectorau, a manteisiodd ymgeiswyr ar y cymorth a oedd ar gael ar y diwrnod i lenwi ffurflenni cais. Ymhlith y cyflogwyr roedd: Primark, McDonald’s, Ralawise, Kingswood, 2 Sisters Food Group ac asiantaethau recriwtio amrywiol. Cynhaliwyd nifer o gyfweliadau ar y diwrnod hefyd i gynorthwyo’r rhai a oedd yn bresennol. Agorwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Roedd Cymunedau yn Gyntaf, Sir y Fflint yno hefyd i ddangos eu gwaith, gan gynnwys rhaglen LIFT, a ddatblygwyd i helpu pobl sy’n ddi-waith ers cyfnod hir i gael hyd i waith. Yn ogystal â gwneud cais am swyddi gwag, roedd cyfle i gyfarfod â chyflogwyr, darparwyr addysg a chyrff eraill a’u holi. Dywedodd y Cynghorydd Butler: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a daeth bron 550 o bobl drwy’r drysau. Rhoddodd ddarlun gwahanol o fyd gwaith a’r swyddi a’r sgiliau sydd eu hangen. Roedd y neuadd yn llawn ac, ar adegau, roedd pobl yn aros i ddod i mewn, sy’n dangos bod y digwyddiad blynyddol hwn yn tyfu o’r naill flwyddyn i’r llall, a’i fod yn ffordd hanfodol o helpu pobl leol i ddod o hyd i swyddi sy’n addas i’w set sgiliau nhw neu i roi cyfle iddynt ddysgu rhagor am yrfaoedd a hyfforddiant newydd. Siaradais â nifer o ymwelwyr a oedd yn falch iawn o’r cyngor a oedd ar gael, ac yn teimlo bod y digwyddiad yn fuddiol iawn.” Cyng Paul Shotton, Teresa Allen - Mentor LIFT, Cyng. Ian Dunbar, Jane Davies - Jobcentre Plus, Gill Griffiths - Careers Wales, Kate Thew and Nia Parry, Communities First ac Cyng. Derek Butler.