Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd am blâu di-eisiau

Published: 25/04/2016

Yr adeg hon o’r flwyddyn, pan ydych yn dechrau edrych ymlaen at dywydd cynnes y gwanwyn, gallwch weithiau ddod o hyd i westeion di-eisiau yn eich cartref neu’ch swyddfa. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig gwasanaeth rheoli plâu cynhwysfawr a phroffesiynol i gael gwared ar y plâu hyn o’ch cartref neu’ch swyddfa: · Llygod mawr · Llogod bach · Chwain · Gwenyn meirch · Morgrug Mae’r gwasanaethau’n amrywio o gyngor sylfaenol am atal plâu i reoli plâu uniongyrchol. Mae ein prisiau’n gystadleuol ac yn cynnwys ymweliadau dilynol ac mae gostyngiadau ar gael os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol. Mae pob swyddog rheoli plâu wedi cael hyfforddiant llawn ac yn gymwysedig i safonau’r diwydiant. Mae contractau cynnal a chadw ar gael hefyd am bris sefydlog blynyddol. Caiff y contractau hyn eu haddasu yn unol â’ch gofynion unigol ac maent yn cynnwys archwiliadau rheolaidd a drefnir, synwyryddion plâu a ffeil wybodaeth. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01352 701234 neu e-bostiwch pestcontrol@flintshire.gov.uk neu dewch o hyd i ni ar www.siryfflint.gov.uk.