Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl Ddawns Sir y Fflint 14

Published: 13/06/2014

Bydd ysgolion Sir y Fflint yn dawnsio am lawenydd mis Mehefin gyda disgyblion o 50 o ysgolion yn llamu ar y llwyfan yn ystod Gwyl Ddawns Sir y Fflint yn Theatr Clwyd Cymru, Yr Wyddgrug, o ddydd Llun 23 i ddydd Gwener 27 Mehefin. Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad enfawr hwn, mae gwerth £23,000 o gyllid wedi cael ei ddyfarnu i ysgolion i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr dawns proffesiynol o NEW Dance, y cwmni datblygu dawns ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Maer cwmni wedi bod yn gweithion agos gyda disgyblion rhwng 3 - 18 oed, i greu eu perfformiad arbennig eu hunain. O ddawnsio ‘stryd’ i ddawnsio ‘jeif’, maer Wyl Ddawns yn sicr o fod yn wledd i bawb. Dwedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Buaswn yn annog pawb i archebu eu tocynnau ar gyfer Gwyl Ddawns Sir y Fflint, sydd bob amser yn ddigwyddiad arbennig. Mae ysgolion yn Sir y Fflint yn parhau i ragori mewn dawns ac rydym yn falch i arddangos y dalent gynyddol hon. Caiff Gwyl Ddawns ei threfnu gan Adain Gelfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint a’i hariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (AGChY). Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Clwyd Cymru drwy ffonio 0845 330 3565. Nodiadau i Olygyddion Am luniau, cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts, Swyddog Datblygur Celfyddydau ar 01352 704027 neu anfonwch e-bost at trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk