Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Amser i faethu; amser i ofalu

Published: 09/05/2016

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni (16-29 Mai), mae Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint eisiau codi ymwybyddiaeth or angen am bobl a all ofalu am blant dros 10 oed. Yn y 12 mis diwethaf, mae 69 yn fwy o blant wedi bod angen gofal maeth yn Sir y Fflint. Mae hyn ar ben y dros 100 o blant sydd eisoes yn byw gyda gofalwyr Sir y Fflint ac mae eu gwelyau yn llawn. Bydd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth ddydd Iau, 26 Mai am 7pm yng Ngwesty Springfield ger Treffynnon gan gynnwys cyflwyniad am ddod yn ofalwr maeth. Cysylltwch â thîm Maethu Sir y Fflint ar 01352 702190 neu anfonwch e-bost at fostering@flintshire.gov.uk os hoffech fynychu. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Maer rhan fwyaf o blant sydd wedi bod angen gofal maeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod dros 10 mlwydd oed. Mae arnom angen pobl y mae eu plant eu hunain wedi tyfu i fyny a gadael cartref, ac syn gallu defnyddio eu profiad i roir un cyfleoedd mewn bywyd i blentyn arall. “Mae pobl ifanc angen rhywun i wrando, treulio amser gyda nhw, eu helpu i ddal i fyny ar eu haddysg, eu hysbrydoli i weithion galed a’u paratoi ar gyfer bywyd ar eu pen eu hunain. “Mae gofalwyr maeth yn sôn am y llwyddiannau bach syn golygu llawer wrth ofalu am berson ifanc; mynd ar fws ar eu pennau eu hunain, eu dysgu i yrru, dangos iddynt sut i wisgo colur yn dlws, y llawenydd o’u gwylio yn gwneud yn dda mewn chwaraeon ac eistedd o amgylch y bwrdd i gael cinio.” Mae angen gofalwyr maeth i helpu plant o Ogledd Cymru. Mae hyfforddiant a digwyddiadau lleol yn cael eu cynnig, yn ogystal â chefnogaeth tîm lleol profiadol, gyda gwybodaeth leol. Mae dros 100 o deuluoedd yn ymddiried yng Ngwasanaeth Maethu Sir y Fflint iw cefnogi, a’u cydweddu âr plant cywir ac maent yn parhau i faethu âu cyngor lleol blwyddyn ar ôl blwyddyn. Bob 20 munud ar draws y DU bydd plentyn angen teulu maeth. Nod ymgyrch Pythefnos Gofal Maeth eleni Amser i Faethu, Amser i Ofalu, a gynhelir gan y Rhwydwaith Maethu, yw annog pobl a all fod wedi bod yn meddwl am faethu ers nifer o flynyddoedd i ddod ymlaen. Rwan ywr amser i faethu ... rwan ywr amser i ofalu. Dyma stori Megan. Mae hin 16 oed ac yn byw mewn gofal maeth yn Sir y Fflint. Roedd Megan yn awyddus i rannu ei stori i ddangos y gwahaniaeth y mae maethu wedi’i wneud iw bywyd a sut y gallai helpu eraill: “Roeddwn i’n mynd i lawr y llwybr anghywir, yn rhedeg i ffwrdd drwyr amser, yn mynd i drwbl a bob amser yn flin gyda phobl. Yna cefais fy rhoi mewn gofal maeth ac mae wedi gwneud lles i mi fod mewn gofal maeth. Roedd ychydig yn lletchwith ar y dechrau gan nad oeddwn yn eu hadnabod, ond roeddent yn neis iawn. Roeddent eisiau i mi fod fel rhan or teulu. Mae plant angen teulu, rhywun i’w caru, gofalu amdanynt a gwrando arnynt. Mae rhywun fy oedran i angen rhywun i fod yno iddynt, gofalu amdanynt a dweud wrthynt beth syn iawn a beth sydd ddim. “Rydym yn mynd am bryd o fwyd neu ddiwrnod allan. Rydym yn mynd ir sinema, neu yn yr haf rydym yn mynd ir traeth. Rydym yn mynd i siopa gydan gilydd, rydym yn gwneud gwahanol bethau fel teulu. Rai penwythnosau rydym yn mwynhau nosweithiau gemau a bwyd têc awê. “Maen nhw wedi fy nysgu sut i garu pobl, oherwydd roeddwn yn meddwl na allwn i fyth garu teulu, na chael fy ngharu. Maen nhw wedi fy nysgu sut i olchi fy nillad, sut i smwddio a fy mod yn gallu gwneud pethau. “Doedd neb yn meddwl y byddwn yn llwyddo, ond nid wyf i or farn honno bellach, rwyn gweld fy hun yn cael fy nheulu bach fy hun, setlo i lawr, cael swydd neis a fy fflat bach fy hun, a bod yn well person nag y byddai unrhyw un wedi disgwyl i mi fod. “Dyma fy nheulu i rwan. Mae gen i deulu yma os byddaf byth eu hangen felly rwyn gwybod y bydd gennyf ddyfodol da.” Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling: “Maen cymryd 12 mis i ddod yn ofalwr maeth. Rydym yn treulio amser yn asesu eich sgiliau ach cryfderau, yn dod i’ch adnabod chi ac yn eich paratoi ar gyfer eich rôl fel gofalwr maeth ar heriau posibl sydd och blaen.” Gallwch gysylltu â ni mewn cymaint o ffyrdd, anfon e-bost at fostering@flintshire.gov.uk, anfon y gair “maethu” at 61211, Facebook (chwiliwch Maethu Sir y Fflint), ewch in gwefan yn www.flintshirefostering.org.uk neu ffoniwch 01352 702190. Bydd gennym sgwrs fyw ar ein gwefan drwy gydol pythefnos gofal maeth os ydych am ofyn cwestiwn a byddwn yn cynnal sesiynau gwybodaeth bron bob mis. Maer manylion i gyd ar ein gwefan.