Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Trosglwyddo Asedau Cymunedol o Llyfrgell yr Hôb 
  		Published: 27/04/2016
Bydd gwasanaethau llyfrgell yr Hôb yn newid ym mis Mai.
Mae’r gwasanaeth yn newid yn unol â’r Cynllun Tymor Canolig i Lyfrgelloedd a 
gytunwyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2015. Y nod yw sicrhau rhwydwaith 
cynaliadwy a fforddiadwy o gofio bod y gyllideb wedi gostwng 30% dros gyfnod o 
3 blynedd oherwydd y toriadau ariannol sydd ynghlwm wrth raglen gyni cyllidol 
llywodraeth San Steffan. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i 
sicrhau y caiff y newidiadau hyn eu rheoli mor ddidrafferth â phosibl.
Llyfrgell yr Hôb yn Ysgol Uwchradd Castell Alun 
O ddydd Gwener 6 Mai 2016 ymlaen, ni fydd Llyfrgell yr Hôb yn parhau’n rhan o 
rwydwaith llyfrgelloedd Cyngor Sir y Fflint. Bydd cwsmeriaid yn gallu parhau i 
ddefnyddio’u haelodaeth yn llyfrgelloedd eraill y Cyngor, yn y llyfrgell fro, 
ac i ddefnyddio adnoddau ar-lein fel e-lyfrau, e-gylchgronnau a’r catalog 
ar-lein, ac i wneud cais am wasanaethau. 
Bydd Ysgol Uwchradd Castell Alun a Chyfeillion Llyfrgell Gymunedol yr Hôb yn 
gweithredu llyfrgell gymunedol  a llyfrgell ysgol yn adeilad presennol 
Llyfrgell yr Hôb yn Ysgol Castell Alun.
Bydd y llyfrgell ar agor i’r gymuned ar yr amseroedd a ganlyn: 
Dydd Llun 9.30am – 12.30pm, 3–7pm 
Dydd Mawrth 9.30am – 12.30pm
Dydd Mercher 9.30am – 12.30pm
Y Llyfrgell Bro
Bydd y Llyfrgell Bro yn ymweld â’r Hôb bob 3 wythnos gan ddechrau ddydd Iau 12 
Mai 2016
Maes parcio Ysgol Uwchradd Castell Alun, Lôn Fagl, yr Hôb
Dydd Iau 9.30 -11am
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Pencadlys y Llyfrgell ar 01353 704400 neu Pennie Corbett, Prif Swyddog 
Llyfrgelloedd a’r Celfyddydau  e-bost pennie.corbett@flintshire.gov.uk 
Paula Williams, Dirprwy Bennaeth, Ysgol Uwchradd Castell Alun 
paula.williams@castellalun.flintshire.sch.uk
Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol yr Hôb
ktoo@hotmail.co.uk
Laurence Robinson, Cadeirydd 01978 761676