Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn adnewyddu 500fed eiddo

Published: 03/05/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu ynghyd âu contractwr, Keepmoat, ar ôl cwblhaur 500fed eiddo fel rhan o gynllun adfywio £103miliwn a fydd yn gwella bywydau miloedd o denantiaid y cyngor ar draws y sir. Bydd y gwaith, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2015, yn golygu bod tua 3,000 o dai syn eiddo ir cyngor yn cael eu diweddaru eleni gyda cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ailweirio trydanol ac uwchraddio fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae SATC yn safon ansawdd genedlaethol ar gyfer cartrefi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Maen golygu y dylai pob tenant yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da syn cwrdd â gofynion y cartref. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithion galed i gyflawnir safon hon yn ei holl eiddo cyn y dyddiad cau sef 2020. Amlygir hyn gan y dathlu gydar 500fed preswylydd i gael adnewyddu ei hystafell ymolchi ai chegin – dywedodd y preswylydd Mrs Jones: “Rwyf wrth fy modd gydar gwaith sydd wedii wneud – roedd y gweithwyr yn gwrtais ac yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud yn siwr bod cyn lleied o amhariad â phosibl. Roeddent yn gweithion effeithlon fel bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn gyflym. Dywedodd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai, Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn gweithio gyda chontractwyr ardderchog ar ein cynllun SATC ac mae Keepmoat wedi cwblhau gwaith rhagorol wrth gyflawni 500 o adeiladau yn ardaloedd Bwcle a Threffynnon yn ystod y flwyddyn ariannol 2015-16. Byddwn yn symud ymlaen i eiddo yng Nglannau Dyfrdwy, Bwcle ar Wyddgrug fel rhan o gam nesaf y rhaglen a drefnwyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau’r gwaith hwn gyda nhw dros y misoedd ar blynyddoedd i helpu i drawsnewid bywydau ein trigolion. Meddai Frank Mondino, Cyfarwyddwr Ardal Keepmoat yn y Gogledd Orllewin: “Mae hon yn garreg filltir wych. Mae pobl Caerwys wedi cydweithredu yn anhygoel yn ystod y broses adnewyddu ac rydym yn falch bod trigolion fel Mrs Jones nawr yn mwynhau eu cartrefi ar ôl gwneud y gwelliannau. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan wrth gyflwyno gweledigaeth Cyngor Sir y Fflint i drawsnewid bywydau nifer sylweddol o drigolion. Or chwith: Sean ODonnell Syrfewr Cytundebau Sir y Fflint, Stephen Hunt Rheolwr SafleKeepmoat, Lynne Tetlow Cyswllt Tenantiaid Keepmoat, Mrs Jones ac Cyng Helen Brown, Aelod Cabinet Tai