Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Craffu er mwyn ystyried ateb arall ar gyfer gorfodaeth amgylcheddol

Published: 04/05/2016

Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar gynllun peilot 12 mis i ymgysylltu â phartner allanol i gynorthwyo â dyletswyddau gorfodaeth amgylcheddol y Cyngor. Mae troseddau amgylcheddol fel baw cwn a thaflu sbwriel yn parhau i fod yn broblem fawr ac maer ddau fater hwn yn parhau i ddifetha parciau, mannau agored a strydoedd y Sir. Bydd y trefniant newydd yn cynyddu nifer y swyddogion gorfodi sy’n gweithio ar y strydoedd ac mewn mannau agored ar unrhyw adeg or wythnos, er mwyn cynorthwyo swyddogion gorfodi presennol y Cyngor i ddarparu ymagwedd dim goddefgarwch tuag at droseddau amgylcheddol. Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Bernie Attridge: Bu i ni gyflwyno dull gorfodi dim goddefgarwch fel rhan on proses Cynllunio Busnes yn 2015-16. Ers hynny rydym wedi cynnal ymarfer ymgysylltu âr cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth helaeth, ymweld â busnesau, yn enwedig yng nghanol trefi, a Chynghorau Tref a Chymuned i roi gwybod iddynt am y trefniadau gorfodi newydd mwy trylwyr. Er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae taflu sbwriel a baw cwn yn parhau i fod yn broblem fawr ac rydym yn argymell cyflwyno trefniant gyda phartner preifat sydd ag enw da am lwyddo i orfodi ym maes troseddau amgylcheddol. Bydd effaith y cynigion yn cael eu hadolygu dros y flwyddyn nesaf fel bo modd i ni asesu’r effaith ar lendid ein Sir cyn gwneud penderfyniad terfynol ynglyn â’r gwasanaeth a ddarperir ar ddiwedd y cyfnod treialu Ar ôl treialu’r trefniant am 12 mis, cynhelir gwerthusiad llawn o’i lwyddiant cyn trefnu contract ac ymrwymiad mwy hirdymor. Meddai Aelod Cabinet dros Wastraff a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Kevin Jones: Mae llawer o awdurdodau lleol wedi ffurfio partneriaeth â chwmnïau preifat i ychwanegu at eu gweithgareddau gorfodi. Rydym wedi cwrdd â sefydliadau cenedlaethol sydd â phrofiad perthnasol ac wedi derbyn cynnig a fydd yn diwallu ein hanghenion am 12 mis. Ni fydd cost am y gwasanaeth ir Cyngor a bydd pob hysbysiad cosb penodedig a roddir yn darparu elw o 15%. Maer digwyddiad glanhau traeth y bu i ni gymryd rhan ynddo’n ddiweddar, a drefnir gan Cadwch Gymrun Daclus, yn dangos bod angen cymryd mwy o gamau gweithredu yn erbyn baw cwn a sbwriel.