Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofalwch am ein bywyd gwyllt

Published: 11/05/2016

Hoffai Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint atgoffar cyhoedd i beidio â mynd yn rhy agos at fywyd gwyllt na chodi unrhyw fywyd gwyllt i fyny hefyd ymgynghori âr sefydliadau priodol yn gyntaf. Achubwyd y mochyn daear bach yma ar ôl iddo beidio â dangos bod ofn cwn na phobl arno, syn ymddygiad anghyffredin. Cafodd ei achub gan y Ceidwaid Cefn Gwlad Rachel Watson a Stephen Lewis ac aethpwyd ag ef ir RSPCA ar ôl ei fonitron ofalus am dros 3 diwrnod o amgylch Parc Gwepra. Er eu bod yn ymddangos yn dlws ac annwyl, anifeiliaid gwyllt ydyn nhw a dylid gadael iddyn nhw. Maer tymor nythu wedi cyrraedd ac mae Ceidwaid hefyd yn cynghori pobl i beidio â chodi cywion i fyny oni bai fod gwir angen oherwydd ni fydd eu rhienin rhy bell i ffwrdd.