Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant prentisiaid Sir y Fflint

Published: 17/05/2016

Cafodd hyfforddeion Cyngor sy’n gweithio tuag at eu prentisiaethau neu sydd wedi eu cwblhaun llwyddiannus eu llongyfarch mewn seremoni wobrwyo ddiweddar yng Ngholeg Cambria. Mae rhaglen hyfforddi Cyngor Sir y Fflint wedi ei sefydlu ers ugain mlynedd. Bob blwyddyn caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y Cyngor. Ar hyn o bryd mae 57 o hyfforddeion mewn lleoliadau ar draws y sefydliad. Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu Coleg Cambria ar sail diwrnod astudio dros ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael hyfforddiant ac asesiad yn y gweithle. Enillydd gwobr glodfawr Hyfforddai’r Flwyddyn Sir Y Fflint yw Madeleine Henri-joy a dderbyniodd ei thlws gan Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria, David Jones. Enwyd Philip Southern fel Hyfforddai Lefel Uwch y Flwyddyn a derbyniodd ei dlws gan Colin Everett. Y ddwy arall i gyrraedd y rownd derfynol oedd Nicole Askey a Mari Edwards. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: ”Mae creu a datblygu’r prentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac mae’r seremoni wobrwyo yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant y rhai sy’n rhan o’r cynllun ar hyn o bryd. Mae’r rhaglen wedi tyfu ac wedi datblygu dros y blynyddoedd ac mae bellach yn cynnig rhaglen lawn o gyfleoedd prentisiaeth gan gynnwys gweinyddu, TGCh, cyfrifyddiaeth, cadwraeth amgylcheddol, peirianneg, arlwyo, hamdden, rheoli cefn gwlad ac amryw o ddisgyblaethau crefft.” Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett: “Rydym yn falch iawn o’n cynllun prentis yn Sir y Fflint sy’n cael ei gydnabod gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda’n partneriaeth gyda Choleg Cambria. Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd i brentisiaid astudio a chael profiad gwerthfawr ymarferol or gweithle ar yr un pryd. Mae gennym raddfa lwyddiant wych gyda 98% o’n hyfforddeion yn cael eu cyflogi un ai gyda’r Cyngor neun allanol ac mae rhai yn symud ymlaen i Brifysgol i barhau gyda’u hastudiaethau. “Llongyfarchiadau i’n holl hyfforddeion, i’n graddedigion, ac i enillwyr y gwobrau. Dyma ffordd addas o ddathlu 20 mlynedd o’r rhaglen wych hon.” Meddai David Jones: “Roeddwn wrth fy modd o gyflwyno Gwobr Hyfforddai’r Flwyddyn gan fod y prentisiaid yn ysbrydoliaeth, mae angen canmol eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’w gwaith ac i’w haddysg. Mae mor dda gweld bod gan Gyngor Sir y Fflint ddull mor gadarnhaol o hyfforddi a’u bod wedi llwyddo i benodi a datblygu hyfforddeion mor dalentog.” Mae Cynllun Uwch wedi ei gyflwyno ac eleni cychwynnwyd cynllun hyfforddi graddedigion – gan recriwtio 3 person graddedig i ennill cymwysterau proffesiynol. Mae’r Cyngor bellach am recriwtio 20 o bobl i ymuno â rhaglen brentisiaid 2016. Mae’r microwefan bellach yn fyw ac yn cynnwys gwybodaeth ar yr 20 o brentisiaethau. Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.flintshire.gov.uk/trainees/.