Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Model Cyflenwi Amgen (MCA) Hamdden a Llyfrgelloedd – mae’r Cyngor; y Gwasanaeth a Staff yn hyderus mai sefydliad cydfuddiannol a arweinir gan y gweithwyr ywr ffordd iawn o fwrw ymlaen

Published: 16/05/2016

Bydd y Cabinet yn ystyried argymhelliad pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf i greu sefydliad cydfuddiannol a arweinir gan y gweithwyr i ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgell o 2017. Yng nghyfarfod mis Mawrth, ystyriodd y Cabinet y manteision a chefnogodd y cynnig mewn egwyddor, yn amodol ar ragor o wybodaeth am sut y byddai perchnogaeth yn gweithio a thystiolaeth bod y gweithwyr yn y gwasanaeth yn hyderus âr dull hwn. Maer manteision yn cynnwys arbedion a gynlluniwyd i’r gyllideb o hyd at 30% tran cadwr ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a lleihau unrhyw ddiswyddiadau staff. Mae rhan or cynnig yn cynnwys trosglwyddo ased cymunedol Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden Treffynnon. Mae Cambrian Aquatics i fod i gymryd rheolaeth ar Bwll Nofio Cei Connah o 30 Mai ac mae cynlluniau’n cael eu datblygu gan gymuned Treffynnon i drosglwyddor Ganolfan Hamdden mewn modd tebyg. Byddai gweddill y cyfleusterau ar gwasanaethau wedyn yn trosglwyddo i Sefydliad Cydfuddiannol wedi ei arwain gan y Gweithwyr yn ystod 2017. Bydd gan weithwyr ran ymarferol yn natblygiad y cynigion terfynol a chynlluniau gweithredu. Mae tri deg pedwar o weithwyr wedi ffurfio grwp llais y gweithlu i helpu i ddatblygur cynigion. Cyfarfu chwe aelod or grwp yn ddiweddar gyda chynghorwyr ac arweinwyr gwasanaethau i wneud sylwadau ar y cynllun busnes, nodi beth y maent yn teimlo yw eu rhan a nodi’r camau pwysig nesaf. Cadarnhaodd pob parti eu bod yn hyderus i fwrw ymlaen âr cynnig. Bydd cynrychiolwyr yr arweinwyr gwasanaeth ar gweithlu wrth law yn y cyfarfod i rannu eu barn. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf wedi fy mhlesion fawr gydag ymgysylltiad ac ymrwymiad y gweithwyr ac mae hyn yn rhoi hyder i mi y gellir cyflenwi hyn fel sefydliad cydfuddiannol wedii arwain gan y gweithwyr gyda staff yn cael rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau allweddol a chynyddu perfformiad y gwasanaeth.” Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Hamdden: “Maer MCA hwn, syn cynnwys sefydliad cydfuddiannol a ariennir gan y gweithiwr a throsglwyddo asedau Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden Treffynnon, yn cynnig rhywbeth unigryw gan nad oes cynlluniau i gau cyfleusterau hamdden lleol na gwneud diswyddiadau mawr. Dwedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Addysg gan gynnwys llyfrgelloedd: “Bydd y cynnig hwn yn helpu cynnal y rhwydwaith o lyfrgelloedd rydym wedi gweithion galed i’w gyflwyno dros y 12 mis diwethaf ac sydd wedi cynnwys trosglwyddo asedau cymunedol nifer o lyfrgelloedd cymunedol yn ogystal â moderneiddio, adnewyddu ac ail-leoli Llyfrgell Glannau Dyfrdwy a bydd yn cynnwys datblygiad tebyg yn Llyfrgell Treffynnon.”