Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grwp Tasg Amgylcheddol Glannau Dyfrdwy

Published: 17/05/2016

Yn dilyn pryderon ynghylch lefel y sbwriel a thipio anghyfreithlon yn y strydoedd cefn a strydoedd rhwng y Stryd Fawr a’r rheilffordd ar hyd coridor Glannau Dyfrdwy, maer Cyngor wedi ffurfio Grwp Tasg i fynd ir afael âr materion. Arweiniwyd y Grwp gan swyddogion y Cyngor ai gefnogi gan aelodau lleol y Cyngor a threfnwyd y camau gweithredu canlynol iw cymryd yn yr ardal: · Maer ardal leol wedi cael ei glanhau yn rheolaidd a chofnodwyd cyfaint y gwastraff a gwiriwyd i ganfod y tramgwyddwr/wyr; · Mae arwyddion rhybudd wedi’u codi yn yr ardal, yn rhoi gwybod i drigolion am y mannau casglu gwastraff cywir; · Darparu trefniadau gorfodi gwell yn yr ardal; · Mae gweithwyr gwasanaeth gwastraff y Cyngor hefyd wedi ymweld â phob eiddo yn yr ardal i sicrhau eu bod yn ymwybodol ou trefniadau casglu gwastraff eu hunain a bod ganddynt ddigon o gynwysyddion gwastraff ar gyfer eu gwastraff. Yn flaenorol, tynnwyd hyd at 10 tunnell o ddeunydd tipio anghyfreithlon oddi ar y strydoedd yn yr ardal bob mis ac ers cyflwyno’r ymagwedd newydd mae’r swm hwn wedi lleihau ac maer ardal bellach yn dangos arwyddion gwelliant clir. Bydd Swyddogion Gorfodi ychwanegol rwan yn patrolior ardal a bydd camau yn cael eu cymryd os bydd rhywun yn cael eu canfod yn gollwng sbwriel neu’n tipio yn anghyfreithlon yn yr ardal. Dywedodd Aelod Cabinet yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae’r Grwp Tasg a gweithredwyr y Cyngor wedi gweithion hynod o galed i wellar ardal ac rwyf yn gobeithio rwan y bydd y preswylwyr yn cymryd rhan lawn âr gwasanaeth casglu gwastraff trwy sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei gyflwyno ar y diwrnod cywir ac yn y lleoliad cywir ar gyfer ei gasglu. Byddaf yn gofyn am werthusiad o ganlyniad y prosiect ac os yw mor llwyddiannus ag yr oedd yr arwyddion cyntaf yn ei awgrymu, byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer cyflwyno’r broses mewn ardaloedd eraill yn y Sir, lle mae problemau tebyg yn bodoli.