Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru

Published: 11/06/2014

Mae’r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ddydd Llun 9 Mehefin yn amlygu’r gwelliannau y mae Cyngor Sir y Fflint wedi eu gwneud, a dyma’r adroddiad mwyaf cadarnhaol hyd yma gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r adroddiad yn adolygiad gan SAC, sef corff annibynnol sy’n monitro holl gynghorau Cymru i sicrhau eu bod yn cyrraedd targedau ac yn darparu a gwerthuso eu gwasanaethau i breswylwyr. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar welliannau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r strategaeth ar gyfer gwelliannau parhaus. Mae’r cyhoeddiad eleni’n cadarnhau’r cynnydd parhaus y mae Sir y Fflint wedi’i wneud fel Cyngor sydd wedi’i lywodraethu’n dda ac sy’n perfformio ar lefel uchel ac mae’r ffaith nad oes unrhyw argymhellion newydd yn dangos fod gan y corff rheoleiddio ffydd yn y Cyngor a’i allu. Mae manylion yn dangos fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da o ran gweithredu mentrau i wella mynediad at wasanaethau; mae’n gwneud cynnydd yn erbyn ei dargedau tai fforddiadwy pum mlynedd i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020; mae’r gwasanaethau cymdeithasol wedi parhau i wella; mae ysgolion Sir y Fflint yn parhau i ddarparu gwerth am arian ac mae’r Cyngor wedi cryfhau ei ddulliau o werthuso ei berfformiad ei hun a’i gynlluniau ariannol ac mae’n ymroddedig i wella. I wneud hyn mae Cynllun Gwella’r Cyngor yn helpu i ganolbwyntio ar flaenoriaethau gan gadw at safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a bydd adolygiad parhaus o gynlluniau ariannol yn atgyfnerthu gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ariannol a fydd yn bwysig wrth ddod i benderfyniadau allweddol yn defnyddio llai o adnoddau ariannol. Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol: “Y llythyr a gafodd Cyngor Sir y Fflint gan SAC oedd y dangosydd mwyaf positif eto fod y corff rheoleiddio yn teimlo fod y Cyngor yn gwneud gwelliannau sylweddol. “Mae’n arwydd o gyngor cyflawn a gan nad ydynt wedi gosod unrhyw argymhellion newydd mae’r Archwilwyr yn fodlon i ni barhau i ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau gwreiddiol. Wrth i’r Cyngor wella’r ffordd y mae’n gwerthuso a gwella ei strategaethau cynllunio, bydd y gwasanaethau a gynigwn i’n preswylwyr heb os yn gwella.” Meddai Colin Everett, Y Prif Weithredwr: “Mae Sir y Fflint yn datblygu ei allu fel Cyngor bob blwyddyn ac mae ein dulliau gwaith arloesol i gyflawni, yn ogystal â’r sylw newydd yr ydym yn ei roi i’n blaenoriaethau, yn cael effaith fawr ble mae’n cyfrif fwyaf; mewn addysg, yr economi leol a thai.”