Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau yn dechrau ar gyfer 10fed Wythnos Fusnes Sir y Fflint

Published: 19/05/2016

Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint, yn dathlu ei 10fed pen-blwydd a bydd y dathliadau yn cychwyn ddydd Llun 6 Mehefin pan fydd digwyddiad eleni yn cael ei lansio yn Neuadd Sychdyn yn Llaneurgain. Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi symud i fis Medi a bydd yn cael ei gynnal 27 i 30 Medi, a Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2016 ar y dydd Gwener, 21 Hydref. Yr wythnos fusnes, ar y cyd ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture Designs, yw un or digwyddiadau pwysicaf oi fath yn y rhanbarth, gan ddenu dros 2,000 o fusnesau yn rheolaidd. Maen cefnogi cymuned fusnes y sir, yn ogystal â busnesau o’r rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi tyfu o nerth i nerth dros y 10 mlynedd diwethaf ac wedi croesawu dros 23,000 o gynrychiolwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Maer tîm wedi cyflwyno mwy na 320 o ddigwyddiadau a maen hynod o bwysig i ni ein bod yn rhoi ein busnesau o bob maint ar y map. Hoffwn ddiolch in prif noddwyr AGS Security Systems - noddwyr y Gwobrau Busnes a Westbridge Furniture Designs - noddwyr yr Arddangosfa Fusnes. Heb eu cefnogaeth, ni fyddair digwyddiadau hyn wedi tyfu i fod yn achlysuron mor fawreddog ag y maent heddiw. “Rhaid i mi hefyd ddweud ein bod yn ffodus iawn o gael llysgennad busnes Sir y Fflint, y Gwir Anrh. Arglwydd Barry Jones, fel ein llywydd. “Hoffwn annog pawb i ddod draw i’r digwyddiadau eleni ym mis Medi.” I gadw lle yn y digwyddiad lansio, a gynhelir am 5.30pm ddydd Llun 6 Mehefin yn Neuadd Sychdyn, ewch in tudalen Eventbrite: https://fbw16_official_launch.eventbrite.co.uk. Ar gyfer cyfleoedd noddi, i archebu stondin neu i gael rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, cysylltwch â Thîm Datblygu Busnes Sir y Fflint ar 01352 703219.