Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawur Urdd!

Published: 27/05/2016

Am y tro cyntaf ers 1984, mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Sir y Fflint! A bydd Cyngor Sir y Fflint yn croesawu pawb iw pabell yn ystod yr wyl deuluol wythnos o hyd, lle bydd gwybodaeth i ymwelwyr ar gael a gwahanol weithgareddau i gymryd rhan ynddynt. Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: Maen wych cael Eisteddfod yr Urdd yn ôl yn ein sir ac rwyn dymuno wythnos lwyddiannus iawn i bawb. Mae llawer iw weld ai wneud ym mhabell Sir y Fflint - o wybodaeth am ein holl atyniadau gwych i dwristiaid a gwybodaeth i ymwelwyr, i weithgareddau crefft a hyd yn oed bwth lluniau! Byddwn yn annog pawb i ddod draw i ddweud helo! Roeddwn yn falch o allu cyflwyno Ysgol Trelogan yr wythnos ddiwethaf gydau gwobr ar gyfer yr ysgol sydd wedi’i haddurno orau. Cymerodd pedair ar ddeg o ysgolion cynradd ar draws y sir ran yn y gystadleuaeth ac roedd y safon yn uchel iawn. Fe greodd gyffro go iawn ymhlith y disgyblion, a bydd llawer ohonynt yn perfformio yn yr Urdd. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd y Fflint. Mae 92% or ymwelwyr yn cytuno ei fod yn ddiwrnod allan gwych ir teulu cyfan. I gael rhagor o wybodaeth neu i gael rhestr lawn o brisiau tocynnau a gwybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i urdd.cymru/eisteddfod.