Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi wedi cael eich canllaw pleidleisio? – Allwch chi ddim ei golli!

Published: 03/06/2016

Gyda refferendwm yr UE yn prysur agosáu, mae Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa preswylwyr sydd heb gofrestru i bleidleisio i wneud hynny erbyn 7 Mehefin. Bydd y refferendwm ar aelodaeth y DU or Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal dydd Iau 23 Mehefin. Mae canllaw pleidleisior Comisiwn Etholiadol, a gafodd ei ddosbarthu i bob cartref yn y DU dros yr wythnos ddiwethaf, yn cynnwys gwybodaeth bwysig i bleidleiswyr am sut i gofrestru i bleidleisio, sut i gyflwyno eich pleidlais, a dadleuon gan brif ymgyrchwyr yr ochrau Aros a Gadael’. Dywedodd Colin Everett, Swyddog Cyfrif Rhanbarthol Cymru, “Nawr bod pleidleiswyr yn Sir y Fflint wedi cael y canllaw pleidleisio gan y Comisiwn Etholiadol, dylai pleidleiswyr fod yn wybodus ac yn barod i gymryd rhan yn y refferendwm ar 23 Mehefin. Gall unrhyw un sydd heb gael copi ei weld ar-lein ar www.aboutmyvote.co.uk “I unrhyw un sydd heb gofrestru ewch ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote. Nid oes angen i bleidleiswyr sydd eisoes wedi cofrestru, gofrestru eto ar gyfer Refferendwm yr UE. Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru: “Maer refferendwm ar 23 Mehefin yn gyfle i bobl gael dweud eu dweud ar un o faterion gwleidyddol allweddol ein hoes. “Mae pleidleiswyr wedi dweud wrthym eu bod eisiau gwybodaeth hygyrch a diduedd fel eu bod yn teimlo y gallant wneud penderfyniad gwybodus yn y blwch pleidleisio. Rydym wedi anfon ein canllaw i bob cartref ledled y DU er mwyn i gymaint o bobl â phosibl deimlon hyderus ynghylch bwrw eu pleidlais ar 23 Mehefin. Maer canllaw hefyd ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg, ac wedi cael ei gynhyrchu mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol a fformatau hygyrch. Dylai unrhyw bleidleiswyr sydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol fynd i www.aboutmyvote.co.uk neu ffonio Llinell Gymorth y Comisiwn Etholiadol ar 0800 3 280 280.