Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnes Neriesha yn ESGYN!

Published: 08/06/2016

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint yn parhau i weithion galed i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol. Maer rhaglen ESGYN yn gynllun gan Lywodraeth Cymru i ddarparu, 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ledled Cymru erbyn diwedd 2017, ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi lle nad oes unrhyw un yn gweithio. Nid ywr rhaglen wedii hanelu at y rhai sydd allan o waith dros dro, ond yn hytrach mae’n canolbwyntio ar unigolion sydd wedi treulio mwy na chwe mis allan o waith. Mae ar gyfer y bobl hynny syn wynebur rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi, syn cynnwys rhieni sengl ifanc, oedolion ag ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol, pobl sydd â chofnodion cyflogaeth gwael a phobl anabl. Dengys ymchwil fod pobl mewn cartrefi â’r nodweddion hyn yn llawer llai tebygol o gael gwaith nag eraill. Ymunodd Neriesha Coathupe â rhaglen Esgyn ym mis Mehefin y llynedd. Mae hin byw yn Shotton ac wedi bod yn derbyn budd-daliadau am dros 3 blynedd. Roedd ganddi brofiad blaenorol o gael ei chyflogi fel gwarchodwr plant, mae ei phlant wedi tyfu fyny ac roedd hi’n teimlo ei bod yn barod i sefydlu ei busnes gwarchod plant o’i chartref ei hun. Fe aeth y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd i ymweld â Neriesha yn ddiweddar a dywedodd: “Mae hwn yn gynllun gwych gan Lywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn fwy na pharod i’w gefnogi - cael pobl i mewn i waith ac mae hyfforddiant yn flaenoriaeth allweddol gan y Cyngor. Dymunwn y gorau i Neiesha yn ei menter newydd.” Wrth sôn am ei hamser ar raglen ESGYN, dywedodd Neriesha: “Mae wedi bod yn ffordd hir i ddechrau fy musnes gwarchod plant ond gyda chefnogaeth a chymorth gan fy mentor ESGYN, rwyf wedi gallu dyfalbarhau a chyflawni fy mreuddwyd. Mae yna lawer o sefydliadau allan yna ond mae ESGYN yn unigryw gydai chefnogaeth un i un, ac mae hyn wedi bod yn allweddol i mi ddechrau fy musnes. Os hoffai rywun ragor o wybodaeth, ffoniwch 0787 6133340.” Os oes gennych ddiddordeb ymuno â rhaglen Esgyn a’ch bod yn cwrdd âr meini prawf a nodir isod, mae croeso i chi gysylltu â ni ar: 01244 846090 neu e-bost: Debbie.barker@flintshire.gov.uk Meini Prawf: Di-waith am 6 mis a mwy Yn byw yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Yn byw mewn cartref di-waith O’r chwith: Debbie Barker, Cyngor Sir y Fflint, Bentley, Neriesha Coathupe ar Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros