Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Sir y Fflint ar y map

Published: 25/06/2021

Geoplace 1.pngMae’n swyddogol, mae Sir y Fflint ar y map ac mae wedi ei chydnabod yng Ngwobrau Enghraifft Batrymol GeoPlace 2021.

Mae llawer ohonom yn cysylltu mapio â chynllunio neu’r amgylchedd, ond mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol bellach yn golygu y gellir lleoli pob cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn fanwl drwy rif cyfeirnod unigryw (UPRN), yn debyg i rif Yswiriant Gwladol sy’n unigryw i bob unigolyn. 

Mae Gwobrau Enghraifft Batrymol GeoPlace yn cydnabod Cynghorau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig sy’n darparu ac yn defnyddio data o ansawdd da ar gyfeiriadau a strydoedd. Gall hyn fod i gynllunio a darparu prosiectau trawsnewid mawr sy’n effeithio ar ardaloedd daearyddol mawr neu brosiectau bach sy’n effeithio ar grwpiau penodol o bobl. 

Gall data gwych ar gyfeiriadau a strydoedd cywir wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. 

Yn Sir y Fflint fe wnaethom gefnogi pobl leol drwy’r sefyllfa Covid-19 drwy:

  • Ddyrannu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain, os nad oeddent yn gallu mynd allan neu os oeddent yn gwarchod;
  • Cefnogi pobl â dementia a’u teuluoedd a gofalwyr drwy ddarganfod digwyddiadau a gwasanaethau sy’n deall dementia;
  • Mewn partneriaeth â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, fe wnaethom roi map i drigolion er mwyn iddynt allu dynodi a chlicio ar wasanaethau lleol megis gwasanaeth danfon bwyd, fferyllfeydd a gwasanaethau iechyd meddwl.

Wrth gyhoeddi gwobr Canmoliaeth Uchel Sir y Fflint, dywedodd GeoPlace LLP:

“Mae’r tîm yn Sir y Fflint wedi gweithio ar lawer o brosiectau sy’n darparu gwasanaeth gwell i drigolion a staff, gan ddefnyddio’r UPRN i greu map i dynnu sylw at wasanaethau lleol mewn ymateb i Covid-19 ... Maen nhw hefyd wedi gweithio i leoli data’n gywir i ddarparwyr gofal a map hygyrch i roi gwybodaeth am Sefydliadau sy’n Deall Dementia.“

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae bod yr unig Gyngor yng Nghymru a gydnabuwyd yn y categori hwn, yn erbyn siroedd llawer mwy o Loegr, yn gyflawniad sylweddol i Sir y Fflint.   

 “Rydw i’n falch o’r ffordd rydym wedi defnyddio technoleg fodern, mewn ffordd ymarferol iawn, i helpu i gefnogi ein trigolion a’n cymunedau.  

“Ar ôl gweld y manteision yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n sicr yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo i’w ddatblygu a byddwn yn edrych i gyflwyno datrysiadau mapio digidol ar draws ystod o wasanaethau gwahanol y cyngor.”

Map o leoliadau sy’n deall dementia ac arweiniad y gellir ei lawr lwytho:

https://fccmapping.flintshire.gov.uk/connect/analyst/mobile/#/main?mapcfg=DementiaFriendlyLocations&lang=cy

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Social-Services/Dementia/Dementia-Friendly-Locations-How-to-Guide.pdf