Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle i bobl leol helpu i greu basged ddelfrydol o gynnyrch Sir y Fflint i’w chyflwyno fel gwobr

Published: 28/06/2021

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i awgrymu pa rai o’r bwydydd a diodydd ardderchog a gynhyrchir yn y sir ddylid eu cynnwys mewn basged leol ‘ddelfrydol’, a gyflwynir fel gwobr mewn cystadleuaeth.

Gyda’r tywydd yn cynhesu dros fisoedd yr haf, rwan yw’r amser perffaith i brofi rhai o’r danteithion newydd blasus sydd ar gael yn yr ardal.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgyrch i ddangos pam nad oes raid teithio’n bellach na ffiniau’r sir i ganfod peth o’r bwyd a diod gorau.

Ym masged ‘ddelfrydol’ Sir y Fflint, y nod yw cynnwys rhai o brif gynhyrchion y sir ac mae trigolion lleol yn cael eu gwahodd i helpu i’w chreu trwy yrru mewn eu hargymhellion.

Ynghyd ag argymhellion pobl leol bydd Naomi Spaven, sy’n rhedeg y cyfrif bwyd a diod Little Welsh Foodie ar Instagram, yn cyfrannu o’i gwybodaeth arbenigol am gynhyrchion Sir y Fflint i helpu i greu’r fasged derfynol.

Meddai Naomi: “Rwan, fwy nag erioed, mae’n hanfodol bwysig cefnogi busnesau bwyd a diod Sir y Fflint a’r cynhyrchion gwych sydd ganddynt ar gyfer ein bwrdd.

“Wrth ddwyn ynghyd y danteithion gorau sydd ar gael yn Sir y Fflint, bydd pobl yn gweld mor ffodus yr ydym o gael cynhyrchion mor ardderchog ar garreg ein drws.

“Gwahoddwn bawb i anfon eu hargymhellion fel y gallwn greu’r fasged ddelfrydol.”

Bydd cynnwys llawn y fasged yn cael ei ddatgelu yn ystod yr wythnosau nesaf. Yna rhoddir yr eitemau a ddewisir mewn tair basged a gyflwynir fel gwobrau mewn cystadleuaeth ar draws cyfryngau cymdeithasol Archwilio Sir y Fflint / Explore Flintshire. 

Gofynnir i ddarllenwyr ‘hoffi’ a rhannu un o’r postiadau a welant ar y cyfryngau cymdeithasol hyn. Yna bydd eu henwau yn yr het ar gyfer dewis yr enillwyr.

Bydd angen i’r tri enillydd gasglu eu basedi o Siop Fferm Lesters ym Mwcle.

Meddai Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint, Andrew Farrow: “Boed ffrwythau a llysiau blasus o ffermydd y sir neu felysion a chynhyrchion eraill ardderchog, mae gan Sir y Fflint ddewis rhyfeddol o fwyd a diod.

“Wrth greu’r fasged, ein nod yw dangos mor wych yw cynnyrch yr ardal ac annog pobl i fynd allan a gweld mannau newydd yn y sir na chawsant efallai y pleser o fod ynddynt o’r blaen.

“Ond ni allwn greu’r fasged heb help y cyhoedd ac rydym yn awyddus iawn i weld awgrymiadau trigolion Sir y Fflint.”

I gynnig bwydydd a diodydd i’w cynnwys ym masged ‘ddelfrydol’ Sir y Fflint, gyrrwch neges ar dudalennau Archwilio Sir y Fflint / Explore Flintshire ar y cyfryngau cymdeithasol - @explore_flintshire ar Instagram neu @exploreflintshire ar Facebook.

Rhaid derbyn yr awgrymiadau erbyn 5pm Ddydd Mercher 7 Gorffennaf.

Hamper 2.JPG