Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn llwyddiannus gydag apeliadau cynllunio yn cael eu diystyru

Published: 01/07/2021

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi llwyddo i amddiffyn dwy apêl yn erbyn ei benderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer ymestyn oriau gweithredol mewn cwmni llogi peiriannau ger Yr Wyddgrug

Roedd Thomas Plant Hire o Llwybr Hill, Caerwys wedi cyflwyno dau gais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint yn ddiweddar er mwyn rheoleiddio gweithgaredd heb awdurdod ar y safle.  Yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yw 06:00 – 18:00 dydd Llun i ddydd Sadwrn, a dim gweithrediadau o gwbl ar ddydd Sul na Gwyl Banc.

Roedd y safle yn arfer bod yn Ganolfan Arddio Sundawn a Chaffi Teapot.  Cafodd cais cynllunio i newid defnydd o’r safle ei wrthod gan Sir y Fflint ond caniatawyd yn dilyn apêl gan yr Arolygydd Cynllunio yn 2016.  

Ers hynny, mae cyfres o gwynion wedi eu derbyn ar ôl nifer o achosion o dorri’r amodau a osodwyd gan yr Arolygydd Cynllunio.  Er gwaethaf cyflwyno Hysbysiad Torri Amodau mewn perthynas â thorri’r oriau gwaith, mae’r perchnogion yn parhau i weithredu y tu allan i’r oriau y cytunwyd arnynt ac mewn ymdrech i reoleiddio gweithrediadau, cyflwynwyd dau gais ar wahân i newid yr oriau gweithredu.  

Roedd y cais cyntaf yn cynnig newid oriau gwaith i 05:00-23:00 saith diwrnod yr wythnos, gyda cherbydau angen cyrraedd a gadael y safle ar gyfer gwaith brys i wasanaethau cyhoeddus y tu allan i’r oriau hynny. Roedd yr ail gais yn bwriadu galluogi cerbydau i gyrraedd a gadael y safle rhwng 18:00-20:00 awr yn unig dydd Llun – dydd Sadwrn a dim o gwbl ar ddydd Sul a Gwyliau Banc. Cafodd y ddau gais eu gwrthod gan Sir y Fflint ac yn dilyn hynny apeliwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Yn y ddau achos, roedd yr Arolygydd Cynllunio yn cytuno gyda phenderfyniad y Cyngor a chafodd yr apeliadau eu diystyru – y cyntaf ym mis Ionawr 2020 a’r mwyaf diweddar ym mis Mai eleni.

Yn y penderfyniad mwyaf diweddar, daeth yr arolygydd i’r casgliad:

“...mae pryderon yn fy arwain at gasgliad y byddai gan y datblygiad canlyniadol y potensial i gael effaith niweidiol sylweddol ar amodau byw meddianwyr eiddo preswyl cyfagos, gan roi ystyriaeth benodol i lefelau effaith swn ac ymyrraeth gyffredinol.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, Sir y Fflint, y Cynghorydd Christopher Bithell:

“Mae Sir y Fflint yn cymryd barn a phryderon preswylwyr o ddifrif – yn arbennig pan mae’n dod i geisiadau cynllunio.  

“Mae’r penderfyniadau llwyddiannus hyn gan yr Arolygydd Cynllunio yn dangos fod Sir y Fflint yn gywir i ystyried pryderon preswylwyr lleol a gweithredu yn unol â hynny.  Mae’n orfodol i ni wneud popeth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw amodau niweidiol yn effeithio ar unrhyw un a all effeithio ar eu hansawdd bywyd.

“Mae hyn yn anfon neges glir bod diffyg cydymffurfio ag amodau cais cynllunio yn gwbl annerbyniol a byddwn yn gweithredu pan fydd amodau yn cael eu torri.”