Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth llawn fflecsi yn lansio yn ardal Treffynnon

Published: 01/07/2021

fflecsi.jpgMae’r gwasanaeth fflecsi newydd yn lansio ei wasanaeth llawn ddydd Llun 5 Gorffennaf, i gynnig gwasanaeth archebu ymlaen llaw 6 diwrnod yr wythnos i drigolion o fewn yr ardal wasanaeth benodol.   

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn rhedeg am y bythefnos ddiwethaf ar y gwasanaethau sy’n bod eisoes ar amserlen.

Bydd y bysiau fflecsi yn gweithredu mewn maes gwasanaeth benodol yn ac o amgylch Treffynnon a bydd yn galluogi preswylwyr heb wasanaethau cludiant cyhoeddus i gysylltu gyda gwasanaethau bws masnachol yn Nhreffynnon a Chaerwys.  Byddent hefyd yn cynnig cludiant i gyfleusterau hamdden, siopau masnach, clybiau ar ôl ysgol ac apwyntiadau meddygol, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol a brofir gan rai preswylwyr gwledig.

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, a map o’r ardal sy’n cael ei wasanaethu a sut i archebu, ewch i https://www.fflecsi.cymru/