Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwedd y gwaith adnewyddu ar y gorwel

Published: 13/06/2016

Maer sgaffaldau wedi dechrau dod i lawr yn Richard Heights - un or blociau fflatiau twr yn y Fflint – sy’n cyhoeddi dechrau diwedd y gwaith uwchraddio sylweddol syn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Cyngor Sir y Fflint i adfywior dref. Maer gwaith ar raddfa fawr ar y 270 o fflatiau wedi cael ei wneud gan y contractwr SERS Energy Solutions Ltd (SERS). Maer cynllun hwn yn rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Cyngor Sir y Fflint, cynllun uwchraddio £100 miliwn i stoc tair Cyngor ledled y sir. Mae eiddo yn y broses o gael insiwleiddio’r waliau allanol, gan gynnwys ffenestri a drysau newydd i wella diogelwch, lleihau’r gwres a gollir a lleihau allyriadau carbon. Maer gwaith hefyd yn cynnwys ailosod y to, gwelliannau ir system wresogi ac uwchraddio teledu o hen gebl gyfechelog i gebl ffibr optig modern. Maer prosiect hefyd wedi cynnwys gosod system gwasgaru dwr mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Tân ac adnewyddu pibellau nad oeddent bellach yn addas ir diben ar ôl dymchwel y fflatiau deulawr a oedd yn gysylltiedig âr hen system yn y ddau floc twr. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Maer gwaith sy’n cael ei gwblhau yn ymwneud â diogelu’r adeiladau poblogaidd hyn i’r dyfodol a sicrhau bod tenantiaid yn mwynhau cartrefi syn gynnes, yn gyfforddus ac yn fforddiadwy. Adeiladwyd y tri twr yn y 1960au ar 1970au ac roedd angen dybryd am eu diweddaru. Rydym yn deall bod y gwaith wedi bod yn tarfu ar denantiaid a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd au dealltwriaeth yn ystod y gwaith. Rwyn gobeithio y byddant yn teimlo bod y cyfan wedi bod yn werth chweil.” Mae SERS wedi cwblhau atgyweiriadau concrit yn ogystal â darparu system rendro silicon wedi’i insiwleiddio ar waliau allanol y tyrau. Esboniodd John Cottrell, Rheolwr Prosiect SERS: “Roedd y tyrau yn thermol aneffeithlon - roeddent yn llythrennol yn gollwng gwres ac mae’r gorchudd allanol hwn yn eu diweddaru ac yn dod â nhw y tu hwnt ir safonau adeiladu cyfredol ar gyfer effeithlonrwydd thermol adeiladau newydd. Yn ei hanfod, rydym wedi eu gorchuddio â siaced wlanog fawr. Bydd y siaced hon yn cadw’r gwres i mewn yn ystod y gaeaf, a bydd yn helpu i atal yr adeilad rhag gorboethi yn yr haf.” Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Maer contract hwn wedi bod yn gam cyntaf aruthrol o bwysig ar gyfer strategaeth dai y Cyngor ac mae’n dangos ein bod o ddifrif wrth ddweud bod gan ein holl drigolion yr hawl i lety a safonau byw gweddus a phriodol. Bydd y gwaith yn anadlu bywyd newydd i mewn i’r fflatiau ac yn eu gwneud yn effeithlon o ran ynni, yn gostwng allyriadau carbon a chostau gwresogi yn y dyfodol.” Mae Mrs Jean Schofield, sydd wedi byw yn Richard Heights ers dros 30 mlynedd wrth ei bodd gydar gwaith adnewyddu. Dywedodd: “Er y bu rhywfaint o aflonyddwch, sydd yn anochel gydag unrhyw fath o waith mawr fel hyn, mae’r contractwyr ar Cyngor wedi ein hysbysun rheolaidd am beth oedd yn digwydd. Mae gweld y sgaffaldiau yn dechrau dod i lawr yn wirioneddol gyffrous - bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i edrychiad allanol y tyrau. Ac rydym eisoes yn elwa or gwelliannau mewnol. Diolch yn fawr i bawb syn gysylltiedig.” Or chwith: Y Cyng David Cox, trigolion Christina Rodriguez ac Evelyn Avery, Tony Jones, Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint, trigolion Ann Cashmore, Anne Bennett a Jean Schofield, Mark Phythian a Chris Grocott, Syrfewyr Contract Cyngor Sir y Fflint ar Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai