Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2021

Published: 07/07/2021

Mae’r Cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau, gyda rhai y mae gofyn i gwsmeriaid dalu ffi neu daliad ar eu cyfer.  Bydd gofyn i aelodau’r Cabinet gymeradwyo’r atodlen ddiweddaraf o ffioedd a thaliadau yn eu cyfarfod  ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.

Mae adolygiad o ffioedd a thaliadau 2021 wedi cael ei gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, a bydd y ffioedd a thaliadau newydd yn gymwys o 1 Hydref 2021, oni bai y dynodir yn wahanol.

Mae cymhwyso’r egwyddorion a gynhwysir o fewn Polisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor wedi sicrhau bod unrhyw newidiadau i daliadau wedi cael eu rheoli yn berthnasol o dan adolygiad 2021. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae ein polisi yn golygu bod y ffioedd a thaliadau yn dryloyw ac yn cael eu cyfathrebu i’n cwsmeriaid mewn da bryd.  Felly, hoffwn gynnig bod fersiwn ar gyfer cwsmeriaid o’r atodlen ffioedd a thaliadau 2021, yn cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.”