Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Incwm Rhent Tai

Published: 07/07/2021

Pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 13 Gorffennaf gofynnir i Gabinet Sir y Fflint nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran ôl-ddyledion rhent yn 2020-21.

Bu i’r canlyniad ar gyfer 2020/21 olygu ôl-ddyledion rhent o £1.854m o gymharu â £1.815m yn y flwyddyn flaenorol – cynnydd mewn ôl-ddyledion o £39k. Mae’r data yn gyffredinol gadarnhaol yn arbennig wrth gymharu yn erbyn rhagolygon cynharach ar gyfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yn arbennig ar amser pan fo’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu eu rhent ar amser.

Mae’r rhan fwyaf o denantiaid wedi cynnal eu taliadau rhent, ond mae’r pandemig yn anorfod hefyd wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu eu rhent ar amser ac mae eu hôl-ddyledion wedi cynyddu, er gwaethaf popeth mae’r Cyngor wedi ceisio ei wneud i gefnogi'r tenantiaid hyn.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r gwasanaeth incwm rhent wedi gweithio’n galed iawn.   Mae blwyddyn ariannol 2020/21 wedi bod yn un o’r rhai mwyaf heriol i'r gwasanaeth yn yr un modd ag y bu i landlordiaid cymdeithasol eraill sy’n gyfrifol am gefnogi tenantiaid yn ystod y pandemig.

“Mae ôl-ddyledion rhent wedi sefydlogi ers cyflwyno Credyd Cynhwysol ond maent ar lefel uwch nag y buont yn hanesyddol; mae peryglon pellach yn parhau oherwydd y pandemig – sef diweddu’r cynllun ffyrlo a’r ansicrwydd ynghylch y cynnydd Credyd Cynhwysol dros dro ac atal troi allan dros dro.”

Yn gyffredinol croesawyd y cam o gyflwyno’r cynllun Lle i Anadlu o Fai 2021 gan y bydd hyn yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod o amddiffyniad cyfreithiol o’u credydwyr i denantiaid sydd mewn dyled, gan gynnwys ôl-ddyledion rhent.  Er gall y mesurau hyn gael effaith negyddol yn y tymor byr gan fod asiantaethau cyngor dyledion yn gweithio gyda thenantiaid i gytuno ar ad-daliadau dyledion fforddiadwy.