Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Masnach Sir y Fflint yn Erlyn Töwr

Published: 16/07/2021

Yr wythnos diwethaf, llwyddodd Safonau Masnach Sir y Fflint yn llwyddiannus i erlyn töwr oedd wedi twyllo gweddw o dros £40,000.

Cysylltodd Richard Whelan, o Blacon â’i ddioddefwr ar ôl i’w driniwr gwallt o ei hargymell hi iddo fo.  Rhoddodd ddyfynbris o £14,000 iddi hi i drwsio problemau gyda’i tho, ond wrth i amser a’r gwaith fynd yn ei flaen, roedd o’n gofyn am fwy a mwy o arian i wneud y gwaith.  Erbyn y diwedd, darganfyddodd ei bod wedi talu dros £40,000 mewn arian parod a throsglwyddiadau banc iddo.  

Cafodd y gwaith ei archwilio gan syrfëwr a ddaeth i’r casgliad bod safon y gwaith a wnaed yn isel a bod y to wedi cael ei adael mewn cyflwr peryglus. Yn ogystal, roedd Whelan wedi gofyn i’r dioddefwr dalu £4,000 i gael gwared ar asbestos nad oedd yn bresennol a £4,000 arall nad oedd ei angen i osod bariau ystlumod a llygod mawr.  

Mewn datganiad effaith ar ddioddefwr a ddarllenwyd yn y llys, dywedodd dioddefwr Whelan “Mae’r straen y mae’r dyn yma wedi ei achosi i mi wedi effeithio’n sylweddol ar fy iechyd a lles corfforol, emosiynol a seicolegol. Dwi’n teimlo fy mod wedi cael fy nhwyllo, ei fod wedi cymryd mantais ohonof i. Mae’r holl brofiad wedi fy mrifo’n fawr a fy nhristau gan feddwl y gallai rhywun wneud hyn i berson arall. 

Plediodd Mr Whelan yn euog i 11 o gyhuddiadau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg a chafodd ei ddedfrydu i 18 mis yn y ddalfa gyda 9 mis yn y carchar ar unwaith a 9 mis ar drwydded wedi hynny. Cafodd ei wahardd hefyd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am 5 mlynedd. Dywedodd y barnwr yn yr achos, Mr David Hale, bod Whelan yn ystyried ei ddioddefwr yn ‘beiriant pres’, a’i fod yn gwybod nad oedd hi angen gymaint o’r gwaith y gododd tâl arni amdanynt, ond roedd o angen yr arian.  Wrth ddedfrydu Whelan, dywedodd y dylai fod â chywilydd ohono’i hun.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

“Roedd y ple euog a’r gosb a roddwyd ar yr achos hwn yn deilwng o achos mor ofnadwy gan ei fod ei fod wedi cymryd cymaint o enillion y ddynes, ond roedd o wedi cael effaith trawmatig arni hi hefyd. Mae’r achos yn dangos sut mae Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned Sir y Fflint yn fodlon ac yn gallu cymryd y camau angenrheidiol i ddod a thwyllwyr o’r math yma ger bron y llysoedd a sicrhau eu bod yn cael eu cosbi, a gobeithio na fydd modd iddynt gymryd mantais ar aelodau diamddiffyn eraill o’r gymuned yn Sir y Fflint.  Mae’r gwasanaeth yn parhau i ymchwilio i honiadau o fasnachwyr twyllodrus sy’n gweithio yn y Sir.”