Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathliadau 10 mlwyddiant wedi cychwyn i Wythnos Fusnes Sir y Fflint
  		Published: 14/06/2016
Lansiwyd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, prif ddigwyddiad busnes Cyngor Sir y 
Fflint sydd erbyn hyn yn ei ddegfed flwyddyn, ar 6 Mehefin yn Neuadd Sychdyn, 
yn Llaneurgain.
Mae’r wythnos fusnes ei hun wedi symud i fis Medi a bydd yn cael ei chynnal o 
27 tan 30 Medi, gyda Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2016 yn dilyn ddydd Gwener, 21 
Hydref.
Mae’r digwyddiad, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge 
Furniture Designs, yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i fath yn yr ardal, gan 
ddenu dros 2,000 o fusnesau’n rheolaidd.  Maen cefnogir gymuned fusnes yn y 
sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu 
cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. 
Dyma’r drydedd flwyddyn ir Arglwydd Barry Jones arwain y digwyddiad.  Mae gan 
yr Arglwydd Jones brofiad helaeth iawn o weithio i helpu diwydiannau yng 
Nghymru ac yn Nglannau Dyfrdwy. Roedd yn un or Aelodau Seneddol a wasanaethodd 
hiraf yn Nhyr Cyffredin a bu’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.   
Mae uchafbwyntiau’r rhaglen elenin cynnwys yr Arddangosfa Fusnes Ranbarthol 
yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy; noson Swyddi a Sgiliau Rhanbarthol yng 
Ngwesty De Vere Village; seminarau Economi ac Uchelgais yn Neuadd Sychdyn a 
Digwyddiad Rhwydwaith Twristiaeth ym MhentrePeryglon yn Nhalacre.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn helpu ein busnesau lleol ac yn rhoi ein 
hardal ni ar y map.  Maen bartneriaeth unigryw a llwyddiannus iawn rhwng y 
sectorau cyhoeddus a phreifat. Rwyf wrth fy modd bod yr Arglwydd Barry Jones yn 
parhau fel Llywydd yr Wythnos Fusnes, ac rydyn ni’n ffodus iawn o gael 
llysgennad mor wych ar gyfer diwydiant a’n sir.
Dywedodd yr Arglwydd Jones: “Braint o’r mwyaf yw cael bod yn rhan o Wythnos 
Fusnes Sir y fflint, yn enwedig eleni gan ei bod yn dathlu deng mlwyddiant. 
“Rydyn ni’n gobeithio datblygu’r Wythnos Fusnes ymhellach yn ystod yr ychydig 
flynyddoedd nesaf er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu 
Economaidd: 
“Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi tyfu o nerth i nerth dros y ddeng mlynedd 
ddiwethaf ac wedi croesawu dros 23,000 o gynrychiolwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. 
Hoffwn ddiolch i’n prif noddwyr, AGS Security Systems – noddwyr y Gwobrau 
Busnes a Westbridge Furniture Designs – noddwyr yr Arddangosfa Fusnes. Heb eu 
cefnogaeth nhw, ni fyddair digwyddiadau hyn wedi tyfu i fod yn achlysuron mor 
fawreddog fel ag y maent heddiw.”
“Hefyd, mae’n rhaid dweud ein bod yn ffodus iawn o gael Llysgennad Busnes Sir y 
Fflint, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, yn Llywydd.”
“Hoffwn annog pawb i ddod draw ir digwyddiadau ym mis Medi eleni.”
Am gyfleoedd i noddi, neu i archebu stondin, ac am fanylion pellach am yr holl 
ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, cysylltwch â’r Tîm Wythnos 
Fusnes ar 01352 703219. 
Or chwith Jenny Pridding a Richard Pridding - Edge Transport, Jonathan Turner 
- AGS Security Systems, Paul Islip - Westbridge Furniture Designs, y Gwir 
Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones - Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, Colin 
Everett - Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, yr Athro Maria Hinfelaar - 
Prifysgol Glyndwr Wrecsam, Kate Muddiman - Coleg Cambria, Collin Singer Wagtail 
UK