Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailwynebu Ffordd Gerbydau A5104 Ffordd Corwen, Coed Talon

Published: 02/08/2021

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi ei fod wedi sicrhau cyllid i roi wyneb newydd ar y ffordd gerbydau ar A5104 Ffordd Corwen, Coed Talan (rhwng Rhyd Osber a chyffordd B5101 Llanfynydd) gan ddechrau dydd Llun 9 Awst am tua 3 wythnos (os bydd y tywydd yn caniatáu). 

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0900 a 1700 er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Hoffai’r Cyngor a’n contractwr Breedon Southern Limited ymddiheuro am unrhyw oedi neu amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.