Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad Arddangosfa Gelf y Criw Celf

Published: 13/06/2016

Bydd myfyrwyr syn cymryd rhan ym mhrosiect Criw Celf Sir y Fflint ar gyfer artistiaid ifanc galluog a dawnus yn cael eu gwaith celf wedi’i arddangos yn broffesiynol ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon am gyfnod cyfyngedig. Bydd yr arddangosfa yn agor ar 23 Mehefin rhwng 5-6pm a bydd ar gael tan 25 Mehefin 2016. Caiff Criw Celf ei reoli gan Gyngor Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint. Mae croeso i ddod i weld y gwaith celf unigryw a hyfryd ac maer arddangosfa yn addo arddangos amrywiaeth o arbrofi a thalent. Mae rhai or cyfranogwyr wedi bod gyda Chriw Celf Sir y Fflint am bum mlynedd. Maer arddangosfan cynnwys gwaith gan Criw Celf Bach (7-10 oed) a grwpiau Criw Celf 1 a 2 (oedran yn amrywio 11-15). Mae myfyrwyr yn cael eu recriwtio yn gyffredinol drwy gyfrwng athrawon ysgolion cynradd ym Mlynyddoedd 5 a 6 ar ddechrau mis Medi ond gellir eu dewis tra yn yr ysgol uwchradd hefyd. Maer myfyrwyr yn y gwahanol grwpiau Celf Criw wedi dysgu llawer o sgiliau a thechnegau newydd ac wedi cael eu cyflwyno i gyfryngau sydd fel arfer y tu hwnt ir hyn syn bosibl mewn ysgolion. Maer gwaith deilliedig yn dangos y talent sy’n blodeuo a brwdfrydedd pobl ifanc Sir y Fflint am y celfyddydau gweledol. Mae Criw Celf Bach wedi cael ei arwain gan yr artist Honor Pedican yn Theatr Clwyd a Llyfrgell y Fflint. Ac mae grwpiau hyn y Criw Celf wedi bod yn gweithio yn neuadd bentref Rhosesmor a chanolfan gymunedol Talacre gyda thri artist proffesiynol, dros chwe dosbarth meistr. Mae’r artistiaid syn gweithio gydar grwpiau Criw Celf eleni yn cynnwys Ruth Thomas, Honor Pedican, Eleri Jones, Jan Gardner, Katie Scarlett-Howard, Angela Davies, Mai Thomas a Richard Boswell. Mae adborth gan y bobl ifanc, rhieni / gwarcheidwaid a hefyd yr artistiaid wedi bod yn llawn canmoliaeth. Mae cyfranogwyr Criw Celf wedi cynhyrchu gwaith o safon uchel iawn ac a allai gystadlu â’r hyn a ddangosir mewn orielau proffesiynol eraill. Maer grwp Criw Celf Bach yn dangos llawer o frwdfrydedd ac addewid. Rydym yn croesawu cyfranogwyr Criw Celf Bach i raglen lawn y Criw Celf wrth iddynt gyrraedd oedran ysgol uwchradd. Maer prosiect celf Criw Celf yn tarddu o Wynedd ers 2007, fel partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd. Ers 2012, mae Cyngor Ynys Môn, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi datblygur prosiect o fewn eu rhanbarthau. Mae bellach wedi dod yn brosiect celf weledol Cymru-gyfan, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Criw Celf yn Sir y Fflint yn cael ei ariannu hefyd gan yr Adain Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint sydd hefyd wedi datblygur prosiect er lles y plant ar bobl ifanc sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol. Bydd lluniau ar gael ar gais. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk.