Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint ar y brig unwaith eto
  		Published: 13/06/2016
Am yr ail flwyddyn yn olynol mae gan Gyngor Sir y Fflint y nifer lleiaf o 
gyn-fyfyrwyr ysgol uwchradd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant 
(NEET) yng Nghymru.
Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Gyrfa Cymru yn dangos mai dim ond 
1.3% o ddysgwyr a gwblhaodd Blwyddyn 11 yn 2015 sydd yn NEET.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
“Mae hwn yn ganlyniad ardderchog ac mae wedi cael ei gyflawni drwy’r gwaith 
partneriaeth rhwng ysgolion, addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar 
waith, y trydydd sector a Gwasanaethau Addysg a Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint.”