Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Cludiant Ysgol

Published: 16/06/2016

Bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad gwybodaeth a diweddaru yn nodi argymhellion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Cyngor ar gludiant ysgol pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin. Maer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid wedi adolygu canfyddiadau ei Grwp Tasg a Gorffen ar gludiant ysgol ac yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo eu hargymhellion. Maer grwp Tasg a Gorffen ei hun yn ystyried adroddiad gan ymgynghorwyr annibynnol a allai fod wedi gweld, mewn rhai achosion, cael gwared ar gludiant dewisol am ddim a chynnydd mewn ffioedd cludiant ar gyfer pobl eraill. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: Bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad gwybodaeth byr yn diweddaru ar yr ystyriaethau Grwp Tasg a Gorffen Pwyllgor Craffu yn ystyried y ddarpariaeth cludiant addysg yn y Sir. Maen bwysig i gadarnhau a sicrhau cymunedau nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid polisi cludiant.